Sut maent yn gweithio

Gall Benthyciad Trefnu helpu i dalu am:

  • dodrefn neu nwyddau i’r cartref (er enghraifft, peiriant golchi neu ‘nwyddau gwyn’ eraill)
  • dillad neu esgidiau
  • rent ymlaen llaw
  • costau yn gysylltiedig â symud tŷ
  • cynnal a chadw, gwelliannau neu ddiogelwch ar gyfer eich cartref
  • costau teithio o fewn y DU
  • costau yn gysylltiedig â chael swydd newydd
  • costau mamolaeth
  • costau angladd
  • talu benthyciadau hur-bwrcas yn ôl
  • talu benthyciadau a gymerwyd ar gyfer yr eitemau uchod yn ôl

Nid yw Benthyciad Argyfwng ar gael bellach.

Rydych ond yn gymwys am Fenthyciad Trefnu os ydych wedi bod ar fudd-daliadau penodol am 6 mis.

Nid oes ond rhaid i chi ad-dalu’r swm rydych chi’n ei fenthyg, a chymerir ad-daliadau o’ch buddion yn awtomatig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat sy’n Hawdd i’w Ddeall.