Gwneud cais i gofnodi cafeat

Gallwch wneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £3.

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch

Bydd arnoch angen:

  • enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw, ac unrhyw enwau eraill yr oeddynt yn cael eu hadnabod wrthynt

  • union ddyddiad y farwolaeth fel y mae’n ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth

  • cyfeiriad olaf yr unigolyn sydd wedi marw

  • eich cyfeiriad chi yng Nghymru neu Loegr

  • eich cyfeiriad e-bost (os ydych am wneud cais ar-lein)

Os nad oes gennych y dystysgrif marwolaeth

Gallwch gofnodi cafeat heb y dystysgrif marwolaeth, ond mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r cafeat gydag union ddyddiad y farwolaeth pan fyddwch yn gwybod beth ydyw. Efallai na fydd y cais am brofiant yn cael ei atal os yw dyddiad y farwolaeth yn anghywir.

Ffioedd

Mae’n costio £3 i gofnodi cafeat.

Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi dalu’r ffi drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’ gyda’ch ffurflen.

Help i dalu ffioedd

Efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu’r ffi cafeat a ffioedd llys eraill os oes gennych incwm isel neu os ydych yn cael budd-daliadau penodol.

Mae dal angen i chi dalu’r ffi gwneud cais am gafeat os ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein. Fe gewch ad-daliad os bydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus.

Gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.

Gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy’r post

Llenwch ac anfonwch ffurflen EX160 drwy’r post. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.

Bydd angen i chi hefyd bostio neu anfon copi o’r ffurflen wedi’i llenwi drwy e-bost i’r tîm ffioedd profiant cyn i chi wneud cais am gafeat.

Os ydych eisiau anfon y copi drwy e-bost, rhowch y canlynol yn llinell pwnc y neges:

  • ‘HWF’

  • p’un a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post

  • enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw

  • dyddiad marwolaeth

Tîm help i dalu ffioedd profiant
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Os ydych eisiau anfon y copi drwy’r post, anfonwch ef i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Newcastle. Dylech gynnwys nodyn i ddweud p’un a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post.

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Newcastle
2nd Floor
Kings Court
Earl Grey Way
Newcastle-upon-Tyne
NE29 6AR

Gwneud cais am gafeat ar-lein

Gwneud cais nawr

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais am brofiant drwy’r post

Llenwch ffurflen PA8A a’i hanfon i Wasanaeth Profiant GLlTEF

Adran Brofiant GLlTEF
BLWCH POST 12625
Harlow
CM20 9QE

Os oes arnoch angen cymorth

Gallwch ffonio ein llinell gymorth Profiant i siaradwyr Cymraeg.

Llinell Gymorth Profiant
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau