Atal cais am brofiant

Neidio i gynnwys y canllaw

Ymateb i her yn erbyn eich cais am brofiant

Gall rywun herio eich cais am brofiant (‘cofnodi cafeat’) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch ewyllys neu pwy all wneud cais am brofiant.

Mae’n rhaid iddynt gofnodi’r cafeat cyn i brofiant gael ei gymeradwyo.

Mae’r cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gellir ei ymestyn am 6 mis arall. Mae’r cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cofnodi cafeat

Ceisiwch ddod i gytundeb gyda’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Os na allwch ddod i gytundeb, yna gallwch roi ‘rhybudd’ ffurfiol i’r unigolyn.

Gall rhoi rhybudd arwain at gafeat parhaol sy’n golygu y bydd angen cymryd camau cyfreithiol pellach i ddatrys y mater. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol. Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr neu cysylltwch â Cyngor ar Bopeth.

Rhoi rhybudd

I roi rhybudd, mae angen i chi:

  1. Ofyn am ffurflen gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds.

  2. Llenwi’r ffurflen a dweud pam bod gennych hawl i wneud cais am brofiant. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynegi ‘diddordeb’ yn yr ystad.

  3. Anfon y ffurflen yn ôl i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Bydd y ffurflen rybuddio wedi’i llenwi yn cael ei chofnodi, ei dyddio a’i stampio â stamp y llys, ac yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.

  4. Gwneud copi o’r rhybudd i’w gadw ar gyfer eich cofnodion.

  5. Anfon neu roi’r rhybudd i’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Cadwch gofnod o sut a phryd rhoddwyd y rhybudd, er enghraifft, drwy law neu drwy’r post. Ni allwch roi rhybudd drwy e-bost.

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA

Ar ôl i chi roi rhybudd

Bydd gan yr unigolyn sydd wedi atal y grant profiant 14 diwrnod i ymateb (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Gallant naill ai:

  • gofnodi ‘ymddangosiad’ os oes ganddynt ‘fudd croes’, er enghraifft, maent yn credu bod yr ewyllys yn annilys a bod ganddynt hawl i gofnodi ymddangosiad o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach, neu, os nad oes ewyllys, nad oes gennych chi hawl i wneud cais am brofiant

  • codi ‘gwŷs’ os nad oes ganddynt fudd croes ond, er enghraifft, maent yn credu bod ganddynt gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu maent yn credu nad ydych chi’n ysgutor addas

Os byddant yn cofnodi ymddangosiad a bod y Cofrestrydd yn cytuno â’u rhesymau, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.

Os byddant yn codi gwŷs, bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd â’r hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai’n well i weinyddwr annibynnol ddelio â’r ystad.

Os na fyddant yn ymateb

Os na fyddant yn ymateb ymhen 14 diwrnod, llenwch y ffurflen datganiad cyflwyno.

Yn y ffurflen, nodwch pryd a sut y gwnaethoch anfon y rhybudd at yr unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat.

Dychwelwch y ffurflen datganiad cyflwyno i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Os na chafwyd ymateb i’r rhybudd, bydd y cafeat yn cael ei ddileu a gallwch barhau â’ch cais am brofiant.

Os nad oes gennych ffurflen datganiad cyflwyno, gofynnwch am un gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Gan amlaf, byddant wedi anfon y ffurflen hon atoch pan fu ichi ofyn am gael rhoi rhybudd.