Gwneud cais i atal grant profiant drwy'r post: Ffurflen PA8A
Defnyddiwch y ffurflen bapur hon i wneud cais i atal grant am brofiant rhag cael ei gyhoeddi. Gelwir hyn hefyd yn gyflwyno cafeat drwy’r post.
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i atal cais am brofiant a elwir hefyd yn “cyflwyno cafeat” os oes gennych anghydfod am:
- pwy all wneud cais am brofiant
- p’un a oes ewyllys ai peidio
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os ydych dros 18 oed ac yn:
- ysgutor a enwir mewn ewyllys
- barti â diddordeb
- ymarferydd profiant (megis cyfreithiwr)
Ffi
Mae’n costio £3 i atal cais am 6 mis.
Sut i wneud cais
Gallwch naill ai wneud cais ar-lein neu drwy’r post.
Gallwch wneud cais i atal y cais am brofiant cyn neu ar ôl i’r cais ddod i law.
Os byddwch yn llwyddiannus, fe gewch ‘gafeat’ - sef ffordd i atal y grant profiant rhag cael ei gyflwyno, sy’n para am 6 mis.
I wneud cais drwy’r post:
- Llwythwch y ffurflen i lawr.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Argraffwch y ffurflen
- Llenwch a y ffurflen a’i dyddio.
- Talwch y ffi o £3 drwy anfon siec yn daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF gyda’ch ffurflen.
- Dychwelwch eich ffurflen ar ôl ei llenwi i:
HMCTS Probate
PO Box12625
Harlow
CM20 9QE
Cysylltwch â ni
Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth profiant.
Llinell gymorth profiant
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Iau, 9am i 1pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
-
Updated the probate helpline opening times.
-
Updated phone line opening times
-
Uploaded a new version of the PA8A in English and Welsh.
-
Updated phone line opening times
-
Updated April's bank holiday week opening times
-
Updated the opening times for the probate helpline
-
Edited the contact us section - The Probate helpline is closed on Saturdays.
-
Helpline information updated.
-
Revised form PA8a uploaded.
-
Revised form including equality and diversity questions.
-
Updated with revised fees payable from August 2020.
-
New form for legal practitioners published.
-
First published.