Adrodd am gerbyd heb ei drethu
Os gwelwch gerbyd heb ei drethu ar ffordd, gallwch roi gwybod amdano. Mae eich adroddiad yn ddienw a bydd yn cael ei ymchwilio.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae ffordd wahanol i adrodd am y canlynol:
Camau i adrodd am gerbyd heb ei drethu
-
Gwirio os yw’r cerbyd wedi’i drethu cyn adrodd amdano - mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim.
-
Gwneud nodyn o’r rhif cofrestru cerbyd, gwneuthuriad, model a lliw’r cerbyd ac enw’r stryd, y dref a’r cod post lle gwnaethoch ei weld. Ni fyddwch yn gallu rhoi gwybod am y cerbyd heb y manylion hyn.