Gwirio a ydych yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Mae’n rhaid i chi fyw yn Lloegr i wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim. Mae faint o ofal plant rhad ac am ddim y gallwch ei gael yn dibynnu ar y canlynol:
- oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
- p’un a ydych yn gweithio (yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu’n gyfarwyddwr)
- eich incwm (ac incwm eich partner, os oes gennych un)
- eich statws mewnfudo
Os ydych wedi cofrestru’n barod, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant.
Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, gallech fod yn gymwys i gael addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim i blant 2 oed.
Mae:
- gwahanol gynlluniau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
- gwahanol gynlluniau yng Nghymru
- gwahanol gynlluniau yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
Mae nifer yr oriau’r wythnos o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn. Os yw eich plentyn yn:
- 2 flwydd oed, gallwch gael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim
- 3 i 4 blwydd oed, gallwch gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim
Ni fyddwch yn gymwys os nad yw’ch plentyn yn byw gyda chi fel arfer.
Os ydych yn maethu eich plentyn, ni allwch ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol a’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am wneud cais.
Os ydych yn gweithio
Fel arfer, gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):
- mewn gwaith
- ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol
- ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu
Os ydych ar absenoldeb mabwysiadu ar gyfer plentyn rhwng 2 i 4 oed, mae’n rhaid i chi ddychwelyd i’r gwaith cyn pen 31 diwrnod i’r dyddiad y byddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf am ofal plant sy’n rhad ac am ddim i’r plentyn hwnnw.
Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd
Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys os yw’ch partner yn gweithio, a’ch bod chi’n cael Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol, Lwfans Gofalwr, Budd-dal Gallu Cyfyngedig i Weithio neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau.
Gallwch wneud cais os ydych yn dechrau neu’n ailddechrau gweithio yn ystod y 31 diwrnod nesaf.
Eich incwm
Dros y 3 mis nesaf mae’n rhaid i chi a’ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf:
- £2,379 os ydych yn 21 oed neu’n hŷn
- £1,788 os ydych yn 18 i 20 oed
- £1,331 os ydych o dan 18 neu’n brentis
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yw hwn am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Gallwch ddefnyddio cyfartaledd o faint rydych yn disgwyl ei ennill dros y flwyddyn dreth bresennol os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn gweithio drwy’r flwyddyn ond nid ydych yn cael eich talu’n rheolaidd
- rydych yn hunangyflogedig ac nid ydych yn disgwyl ennill digon yn ystod y 3 mis nesaf
Enghraifft
Rydych yn gymwys os ydych yn 21 oed neu’n hŷn ac heb incwm rheolaidd ond yn ennill £9,518 y flwyddyn. Mae hyn yr un fath ag ennill £2,379 bob 3 mis ar gyfartaledd.
Os ydych yn hunangyflogedig, a wnaethoch ddechrau’ch busnes lai na 12 mis yn ôl
Gallwch ennill llai a dal i fod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim.
Os oes gennych fwy nag un swydd
Gallwch ddefnyddio cyfanswm eich enillion i gyfrifo a ydych yn cyrraedd y trothwy. Mae hyn yn cynnwys:
- enillion o unrhyw gyflogaeth
- enillion o unrhyw hunangyflogaeth
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os hoffech, gallwch ddefnyddio’ch incwm o hunangyflogaeth yn unig os byddai hynny’n eich gwneud chi’n gymwys.
Enghraifft
Os ydych yn disgwyl y bydd eich enillion cyfartalog o hunangyflogaeth dros y flwyddyn dreth yn uwch na’r hyn y byddwch yn ei gael yn ystod y 3 mis nesaf fel cyflogai.
Incwm nad yw’n cyfrif tuag at isafswm eich enillion
Ni fydd rhai mathau o incwm yn cyfrif tuag at yr isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill i fod yn gymwys.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- difidendau
- llog
- incwm o fuddsoddi mewn eiddo
- taliadau pensiwn
Os oes gennych chi neu’ch partner ‘incwm net addasedig (yn agor tudalen Saesneg)’ disgwyliedig o dros £100,000 yn y flwyddyn dreth bresennol, ni fyddwch yn gymwys.
Eich statws mewnfudo
I fod yn gymwys am ofal plant sy’n rhad ac am ddim, mae’n rhaid bod gennych rif Yswiriant Gwladol ac o leiaf un o’r canlynol:
- dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig
- statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog (yn agor tudalen Saesneg), neu rydych wedi gwneud cais ac yn aros am benderfyniad
- caniatâd i gael mynediad at arian cyhoeddus – bydd eich cerdyn preswylio yn y DU yn dweud wrthych os na allwch wneud hyn
Os oes gennych bartner, mae’n rhaid bod gan eich partner rif Yswiriant Gwladol hefyd.