Treth ar ddifidendau

Sgipio cynnwys

Sut i roi gwybod am dreth ar ddifidendau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) bob blwyddyn yr ydych yn cael difidendau y mae angen i chi dalu treth arnynt. 

Mae’r ffordd y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF am ddifidendau’n dibynnu ar faint y byddwch yn ei gael.

Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau hyd at £10,000

Os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd yn rhaid i chi adrodd unrhyw incwm o ddifidendau ar eich Ffurflen Dreth.  Mae’n rhaid i chi wneud hyn erbyn y dyddiad cau

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chyn 5 Hydref. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch difidendau o fewn y lwfans o ran difidendau ar gyfer y flwyddyn dreth.

Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau sydd dros £10,000 

Bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.  

Os nad ydych fel arfer yn cyflwyno Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi hysbysu CThEF am yr angen i chi lenwi un erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan gawsoch yr incwm.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.