Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad MGD. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Toll Peiriannau Hapchwarae.

Fel arfer bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi gael eich manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.