Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Cyfeirnod
Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X’. Mae hwn ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.