Skip to main content

Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr

Sgipio cynnwys

 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.

Os na allwch dalu eich cosb yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.