Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen i chi ddefnyddio’r slip talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) sydd wedi’i gynnwys gyda’r hysbysiad o gosb am dalu neu gyflwyno’n hwyr.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan CThEF.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener), nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd er gyfrif.