Skip to main content

Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn pen y terfyn amser o 30 diwrnod.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os gwnaeth CThEF anfon slip talu atoch, dylech ei gynnwys gyda’r siec. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu CThEF

Gallwch dalu â siec drwy’r post o hyd. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfernod talu ar gefn y siec.