Talu cosb am dalu neu gyflwyno TWE yn hwyr
Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol.
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar yr hysbysiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.