Cymhwysedd

Nid yw Taliad Cymorth Profedigaeth yn destun i brawf modd. Mae hyn yn golygu na fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn a gewch.

Pan fu farw eich partner mae’n rhaid eich bod:

Mae’n rhaid bod eich partner naill ai:

Gallwch barhau i wneud cais os nad ydych yn siwr a wnaeth eich partner dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y Gwasanaeth Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi.

Ni allwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth os ydych yn y carchar.

Pan fyddwch yn gwneud eich cais

Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 21 mis i farwolaeth eich partner.

Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio o hyd os mai dim ond yn ddiweddar y cadarnhawyd achos y farwolaeth. Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth am help.

Gall pa mor fuan y byddwch yn gwneud eich cais hefyd effeithio ar faint o arian y byddwch yn ei gael. Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y swm llawn o daliadau.

Os bu farw eich partner cyn 9 Chwefror 2023

Mae’n bosibl y gallwch gael taliadau Taliad Cymorth Profedigaeth wedi’u hôl-ddyddio os:

  • bu farw eich partner ar ôl 5 Ebrill 2017
  • pan fu farw eich partner, roeddech yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod
  • roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 30 Awst 2018

Mae’n rhaid eich bod naill ai wedi bod yn feichiog pan fu farw eich partner, neu fod gennych blentyn yn byw gyda chi pan fu farw eich partner a naill ai:

  • mae gennych Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn hwnnw rhwng pan fu farw eich partner a phan fyddwch yn gwneud eich cais
  • rydych wedi cael gwybod gan y Swyddfa Budd-dal Plant bod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer y plentyn hwnnw rhwng pan fu farw eich partner a phan fyddwch yn gwneud eich cais

Rhaid i chi wneud cais erbyn 9 Chwefror 2024 i gael y swm llawn o daliadau wedi’u hôl-ddyddio. Gallwch wneud cais hyd at 8 Tachwedd 2024, ond ni fyddwch yn cael y swm llawn.

Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017, efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Rhiant Gweddw yn lle.

Os oeddech yn byw gyda’ch partner fel petaech yn briod

Oni bai eich bod yn gwneud cais am daliad wedi’i ôl-ddyddio, mae’n rhaid bod un o’r canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:

  • roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi, hyd yn oed os gwnaethoch ddewis peidio â’i gael
  • roeddech chi’n feichiog

Os oedd eich partner yn cael neu’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn lle, bydd angen i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Plant yn eich enw chi cyn y gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth.