Canllawiau

Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n cael eu lladd mewn lladd-dy

Rhaid i weithredwyr lladd-dai gofnodi symudiadau unrhyw wartheg i'r lladd-dy, rhoi gwybod am eu marwolaeth a dychwelyd y pasbort gwartheg.

Applies to England and Wales

Os ydych chi’n rhedeg lladd-dy, rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg i’ch lladd-dy, a’r ffaith eu bod nhw wedi cael eu lladd.

Mae angen ichi wneud hyn o fewn terfynau amser gwahanol

Pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd eich lladd-dy, mae’n rhaid ichi:

  • cofnodi’r symudiad yng nghofrestr eich daliad o fewn 36 awr
  • cofnodi’r symudiad a rhoi gwybod amdano i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod

Ar ôl i’r anifeiliaid gael eu lladd, o fewn 7 diwrnod mae’n rhaid ichi:

  • rhoi gwybod am y marwolaethau i GSGP
  • dychwelyd y pasbortau i GSGP
  • diweddaru cofrestr eich daliad â dyddiadau’r marwolaethau

Diwrnod 1 yw’r diwrnod ar ôl i’r anifail gael ei ladd.

Ceidwad y gwartheg sy’n gyfrifol am anfon y gwaith papur angenrheidiol gyda’r gwartheg. Bwriad y gwaith papur hwn yw rhoi gwybod am symudiad y gwartheg ar ffaith eu bod nhw wedi’u lladd.

Rhaid ichi gyflawni’r holl weithredoedd hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech gael eich erlyn.

Rhoi gwybod am farwolaethau ar-lein

Rhowch wybod am farwolaeth anifail cofrestredig drwy ddefnyddio’r System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein. Os ydych chi’n defnyddio’ch meddalwedd lladd-dy eich hun, cewch ddefnyddio honno i anfon y data i GSGP.

I roi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch uwchlwytho ffeil o symudiadau a marwolaethau i SOG Ar-lein. Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, cysylltwch â GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Rhoi gwybod am farwolaethau dros y ffôn

Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig, gallwch roi gwybod am eu marwolaethau nhw ar linell ffôn hunanwasanaeth SOG.

Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn

Rhoi gwybod am farwolaethau drwy’r post

Llenwch fanylion y farwolaeth ar basbort yr anifail a’i anfon i GSGP. Rhaid iddo gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar ôl y farwolaeth.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Cofnodi manylion y farwolaeth

Yn achos pasbortau tudalen sengl - os ydych chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth ar-lein neu dros y ffôn ar y pasbort, does dim angen ichi lenwi manylion y farwolaeth. Ticiwch y blwch i ddweud eich bod chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth.

Yn achos pasbortau ar ffurf llyfr sieciau - llenwch fanylion y farwolaeth ar y pasbort.

Yn achos pasbortau glas a gwyrdd neu dystysgrifau cofrestru - stampiwch y dyddiad a’r man lladd ar y pasbort.

Mae’n rhaid hefyd ichi gofnodi dyddiad y farwolaeth yng nghofrestr eich daliad o fewn 7 diwrnod.

Dogfennau mae’n rhaid ichi eu dychwelyd i GSGP

Rhaid i’r dogfennau gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar ôl i’r anifeiliaid gael eu lladd.

Rhaid ichi anfon:

  • pasbortau neu dystysgrifau cofrestru’r anifeiliaid, neu’r ddau, os yw’n gymwys
  • copi o’r ddalen ladd ar gyfer pob diwrnod

Mae GSGP yn darparu amlenni wedi’u talu ymlaen llaw i ddychwelyd pasbortau a chopïau o ddalenni lladd. Cysylltwch â GSGP os oes arnoch chi angen rhagor o amlenni neu ddalenni.

Gallwch hefyd gael eich cymeradwyo i ddefnyddio gwasanaeth llarpio i ddinistrio pasbortau gwartheg. Cysylltwch â GSGP i gael gwybod sut i gael eich cymeradwyo. Bydd rhaid ichi ddilyn y rheolau o hyd er mwyn cofnodi a rhoi gwybod am y marwolaethau.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost:bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Arolygiadau adnabod

Bydd milfeddyg swyddogol (OV) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn archwilio 10% o’r gwartheg sy’n mynd drwy ladd-dai. Y rheswm am hyn yw er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwirio dogfennau adnabod yr anifeiliaid yn gywir. Mae’r detholiad yn cael ei wneud ar hap.

I wneud hyn, bydd ar yr FSA angen pasbortau’r anifeiliaid.

Os oes problemau ynglŷn ag adnabod anifail neu basbort anifail, bydd yr OV yn ymchwilio. Ni chaniateir lladd yr anifail nes i’r broblem gael ei datrys.

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am farwolaeth

Rhowch wybod am unrhyw wallau i GSGP mewn ysgrifen cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ymwybodol o’r broblem.

Gallwch chi naill ai:

  • anfon neges yn eich cyfrif SOG Ar-lein, neu
  • anfon neges ebost neu lythyr at GSGP

Esboniwch y broblem a chofiwch gynnwys:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Content has been reviewed for accuracy and reformatted. New information includes the legal requirement to follow these rules, how to correct errors, and the cattle keeper’s responsibility to send the correct paperwork to the slaughterhouse.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.