Rhoi eich eiddo ar osod
Mathau o denantiaeth
Mae’r rheolau ynghylch yr hyn a all ddigwydd cyn neu yn ystod tenantiaeth yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych. Mae’r math o denantiaeth sydd gennych hefyd yn effeithio ar sut y gallwch chi neu’ch tenant ddod â’r denantiaeth honno i ben.
Y math mwyaf cyffredin o denantiaeth yw tenantiaeth cyfnodol sicr (APT) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae mathau eraill o denantiaeth yn cynnwys:
- tenantiaethau neu drwyddedau eithriedig
- tenantiaethau rheoleiddiedig
Os nad ydych yn gwybod pa fath o denantiaeth sydd gennych, gallwch wirio drwy ddefnyddio gwiriwr tenantiaeth Shelter (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Tenantiaethau cyfnodol sicr
Mae tenantiaeth yn cael ei hystyried yn APT os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych yn byw yn yr eiddo
- yr eiddo hwn yw prif lety eich tenant
- mae gan y tenant ei ystafell ei hun - efallai y bydd yn rhannu ystafell ymolchi neu gegin gyda thenantiaid eraill
Nid yw’r denantiaeth yn APT os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn byw yn yr eiddo
- mae’r eiddo yn llety myfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol, mae’r tenantiaid yn fyfyrwyr prifysgol, ac rydych wedi ymuno â’r Cod Ymarfer Cenedlaethol (yn argor tudalen Saesneg)
- mae’n denantiaeth am gyfnod penodol o dros 21 mlynedd
- mae’r rhent yn fwy na £100,000 y flwyddyn
- mae’r rhent yn llai na £250 y flwyddyn (neu lai na £1,000 yn Llundain)
- mae’n denantiaeth fusnes neu’n denantiaeth ar safle trwyddedig
- mae’r eiddo yn llety gwyliau
Tenantiaethau neu drwyddedau eithriedig
Mae’n bosibl bod gennych denantiaeth neu drwydded eithriedig os ydych yn byw yn yr un eiddo â’ch tenant ac yn rhannu ystafelloedd, fel cegin neu ystafell ymolchi. Fel arfer, gyda’r math hwn o gytundeb, bydd gan eich tenant llai o warchodaeth rhag cael ei droi allan.
Tenantiaethau rheoleiddiedig
Gall denantiaethau a ddechreuodd cyn 15 Ionawr 1989 gael eu rheoleiddio. Bydd gan eich tenant fwy o warchodaeth rhag cael ei droi allan a gall wneud cais am ‘rent teg’.