Cael prawf o'ch budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael prawf o:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) – pob math
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) – pob math
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch cael prawf o’ch budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth:
- yn ddigidol – trwy lawrlwytho’r ffeil i’ch dyfais
- trwy’r post – gall hyn gymryd hyd at wythnos i gyrraedd
I gael prawf o Gredyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.
I gael prawf o unrhyw fudd-dal arall, cysylltwch â’r tîm budd-daliadau’n uniongyrchol.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych wedi symud cyfeiriad ac nad ydych wedi rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mae angen i chi roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Bydd angen GOV.UK One Login arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch greu GOV.UK One Login os nad oes gennych un eisoes.
Byddwch yn cael gwybod wrth fewngofnodi os oes angen i chi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer yn golygu defnyddio ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru.
Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:
- ydych yn benodai neu’n rheoli budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth rhywun arall
- rydych yn byw tu allan i’r DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon)
Mae angen i chi gysylltu â’r tîm budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth yn uniongyrchol:
- Credyd Cynhwysol – cysylltwch â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gweini – cysylltwch â’r llinell gymorth Lwfans Gweini yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd
- Lwfans Byw i’r Anabl - cysylltwch â’r llinell gymorth DLA yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd
- Pensiwn y Wladwriaeth – cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) - cysylltwch â’r llinell gymorth PIP yn y [Ganolfan Gwasanaeth Anabledd(/cysylltwch-ar-ganolfan-gwasanaeth-anabledd)
- pob budd-dal arall – cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith