Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref 2024 os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych wedi cofrestru o’r blaen

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad o’r blaen, ond ni wnaethoch anfon Ffurflen Dreth y llynedd, bydd yn rhaid i chi gofrestru eto.

Os ydych yn aros am Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Cyn i chi ddechrau

Dylech wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth cyn cofrestru.

Dechrau nawr