Canllawiau

Sut i gysylltu elusennau

Sut i gysylltu elusennau i wneud cyfrifo ac adrodd yn haws.

Applies to England and Wales

Pryd i gysylltu elusennau

Gall elusennau sydd wedi’u cysylltu neu sydd â’r un ymddiriedolwyr wneud cais i gael eu cysylltu - mae hyn yn golygu y gallant baratoi un set o gyfrifon a rhannu rhif elusen. Nid yw hyn yr un peth ag uno elusennau.

Gall y Comisiwn gysylltu elusennau sydd â’r un ymddiriedolwyr yn unig a/neu sydd wedi’u cysylltu oherwydd y gwasanaeth a ddarparant.

‘Yr un ymddiriedolwyr’ - beth mae hyn yn ei olygu

Mae’r ‘un ymddiriedolwyr’ yn golygu bod gan yr elusennau rydych chi’n eu cysylltu yr un:

  • pobl unigol wedi’u penodi fel ymddiriedolwyr y ddwy elusen
  • ymddiriedolwr corfforaethol, er enghraifft cwmni, wedi’i benodi fel unig ymddiriedolwr y ddwy elusen

Mae gan rai elusennau ymddiriedolwr corfforaethol, sydd hefyd yn elusen. Nid yw hyn yn golygu bod gan y ddwy elusen yr un ymddiriedolwr.

Er enghraifft, mae gan elusen A ymddiriedolwr corfforaethol. Mae’r ymddiriedolwr corfforaethol hefyd yn elusen, elusen B. Er mai elusen B yw ymddiriedolwr elusen A, y cyfarwyddwyr yw ymddiriedolwyr elusen B. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt yr un ymddiriedolwr ac ni ellir eu cysylltu ar sail hynny.

‘Cysylltiedig’ - beth mae hyn yn ei olygu

Ystyr ‘cysylltiedig’ yw bod elusennau yn darparu gwahanol agweddau ar yr un gwasanaeth, er enghraifft:

  • arian gwobrwyo ar wahân mewn ysgol
  • cronfeydd lles preswylwyr wedi’u gweinyddu gan gartref gofal preswyl

Fel arfer ni fydd hyn yn gymwys os yw dwy elusen sy’n gweithio yn yr un maes elusennol yn bell oddi wrth ei gilydd yn ddaearyddol ac nid oes unrhyw gysylltiad arall ganddynt.

Manteision cysylltu elusennau

Mae elusennau sydd wedi’u cysylltu yn:

  • paratoi un set o gyfrifon ac un adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yn unig
  • rhannu rhif elusen
  • cyflwyno un ffurflen flynyddol yn unig

Pan fydd elusennau wedi’u cysylltu, bydd un ohonynt yn elusen adrodd, gan gynhyrchu un set o gyfrifon yn unig ar gyfer yr holl elusennau sydd wedi’u cysylltu. Mae’n rhaid i’r cyfrifon adrodd ar wahân o hyd ar asedau a gweithgareddau pob elusen sydd wedi’i chysylltu, gan gynnwys sut y maen nhw’n darparu budd cyhoeddus.

Mae’r elusen adrodd yn cadw ei rhif elusen ei hun, a bydd yr elusennau eraill sydd wedi’u cysylltu â’r elusen yn defnyddio’r rhif hwnnw gyda digid ychwanegol ar y diwedd i ddangos ei bod wedi’i chysylltu. Er enghraifft, os mai 123456 yw rhif yr elusen adrodd, bydd gan yr elusennau cysylltiedig y rhifau 123456/1, 123456/2 ac ati.

Cyfyngiadau cysylltu elusennau

Meddyliwch yn ofalus a allai’r elusennau sydd wedi’u cysylltu ac sy’n colli eu hen rifau achosi problemau, er enghraifft;

  • colli hanes a brandio; ni fydd datganiadau cyfrifon blaenorol elusennau sydd wedi’u cysylltu i’w gweld ar y gofrestr elusennau ac efallai y bydd rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd newid.
  • pan fyddwch yn codi arian yn enw elusen sydd wedi’i chysylltu, gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw broblemau gyda’r banc wrth dalu’r arian i gyfrifon banc yr elusennau.
  • gallai rhoddwyr grantiau wrthod elusennau sydd heb brif rif elusen gofrestredig, a gall y rhif newydd ddrysu’r cyhoedd.

Nid yw cysylltu elusennau yr un fath ag uno nhw. Ni all elusennau cysylltiedig gyfuno eu hasedau, ac ni allant wario eu harian at ddibenion yr elusennau eraill y maent yn gysylltiedig â nhw.

Mae pob elusen hefyd yn cadw ei dogfen lywodraethol ar wahân.

Mae’n rhaid i bob elusen weithredu er ei lles ei hun a rheoli gwrthdaro posibl.

Bydd rhaid i elusennau sydd wedi’u cysylltu:

  • ddweud wrth y Comisiwn am newidiadau i ymddiriedolwyr, os yw’r ymddiriedolwyr yn wahanol i’r elusen sy’n adrodd
  • cadw o fewn rheolau cyfrifyddu’r gyfraith cwmnïau, os yw unrhyw un o’r elusennau yn gwmnïau
  • adnabod cronfeydd cyfyngedig ac anghyfyngedig ar wahân
  • cadw gwaddol parhaol ar wahân o gronfeydd eraill yr elusennau cysylltiedig

Os yw’r elusen adrodd yn gwmni, ni all drin gwaddol parhaol elusen gysylltiedig fel rhan o’i heiddo corfforaethol.

Dylech chi a’r ymddiriedolwyr eraill meddwl yn ofalus am y manteision a’r cyfyngiadau posibl a ddaw drwy gysylltu. Ceisiwch gyngor proffesiynol os oes angen.

Sut i wneud cais i gysylltu elusennau

Cwblhewch y ffurflen ar-lein os ydych chi’n:

  • ymddiriedolwr
  • rhywun arall sydd wedi’i awdurdodi i wneud cais ar ran yr elusen, megis gweithiwr neu gynghorydd proffesiynol
  • mae’r holl elusennau wedi’u cofrestru

Pa wybodaeth i’w darparu ar y ffurflen

Bydd rhaid i chi ddarparu:

  • enwau a rhifau cofrestru’r elusennau sydd i’w cysylltu
  • manylion sy’n esbonio a ydych am gysylltu’r elusennau oherwydd eu bod â’r un ymddiriedolwyr neu eu bod wedi’u cysylltu oherwydd y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu

Gwneud cais i gysylltu elusennau.

Os yw un neu fwy o elusennau yn ddigofrestredig

Bydd angen i chi ddarparu’r un wybodaeth ag a restrir uchod.

Gwnewch gais i gysylltu lle mae un neu fwy o elusennau heb gofrestru.

Mae’n drosedd o dan adran 60(1)(b) o Ddeddf Elusennau 2011 i ddarparu’n fwriadol neu’n ddi-hid wybodaeth anghywir neu gamarweiniol.

Sut i ddod â chysylltiad i ben

Gwnewch gais i ddod â’r cysylltiad i ben.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2024 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. Included links to Charity Commission forms for applying to: * link charities * be listed on the register of merged charities

  4. First published.