Canllawiau

Sut i ddewis enw elusen

Dewiswch enw unigryw y bydd pobl yn ei gofio pan fyddant am wneud cyfraniad neu wirfoddoli.

Applies to England and Wales

Enwau elusen

Prif enw’ch elusen yw ei enw swyddogol. Gall fod gan eich elusen enw gweithredol hefyd, sy’n enw a ddefnyddir i adnabod eich elusen ac y mae gweithgareddau’r elusen yn cael eu cyflawni oddi tano. Er enghraifft:

  • ‘Comic Relief’ yw enw gweithredol yr elusen ‘Charity Projects’.
  • Adnabyddir y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant fel yr NSPCC

Nid oes gan bob elusen enwau gweithredol.

Lle mae’r cyfarwyddyd hwn yn cyfeirio at enw’ch elusen, rydym yn golygu’r prif enw a’r un gweithredol.

Gofynion ar gyfer enwau elusen

Mae’n rhaid i enw’ch elusen beidio:

  • bod yr un peth nac yn rhy debyg i brif enw neu enw gweithredol elusen sy’n bodoli
  • defnyddio geiriau nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio, er enghraifft enwau enwog
  • defnyddio geiriau na byrfoddau tramgwyddus
  • bod yn gamarweiniol, er enghraifft awgrymu bod yr elusen yn gwneud rhywbeth nad yw’n ei wneud
  • torri rheolau eiddo deallusol (mae hyn yn cynnwys y defnydd o nodau masnach neu enwau masnach)

Chwiliwch y gofrestr o elusennau i wirio a yw’ch enw arfaethedig yr un peth neu’n rhy debyg i enw elusen gofrestredig.

Ni fydd elusennau heb eu cofrestru yn ymddangos yn y gofrestr felly dylech hefyd chwilio’r rhyngrwyd neu wneud ymholiadau rhesymol eraill i wirio am debygrwydd i enwau elusennau a sefydliadau eraill.

Gall y Comisiwn Elusennau eich cyfeirio i newid prif enw neu atal defnyddio enw gweithredol nad yw’n addas oherwydd ei fod yn rhy debyg i enw elusen arall, neu oherwydd ei fod yn dramgwyddus neu’n gamarweiniol.

Os ydym yn gwneud cyfeiriad sy’n gofyn i’ch elusen ddewis prif enw gwahanol, gallwn ohirio cofrestru’ch elusen ac, os oes angen, cymryd camau rheoleiddiol.

Geiriau y mae angen caniatâd ar bob elusen i’w defnyddio mewn enw

Mae angen tystiolaeth arnoch fod gennych ganiatâd i ddefnyddio:

  • enw person neu gymeriad enwog
  • enw gwaith enwog neu â hawlfraint arno, megis llyfr neu ddarn o gerddoriaeth
  • nodau masnach, megis Olympaidd neu Baralympaidd
  • geiriau ‘Brenhinol’, megis Brenin, Brenhines, Tywysog, Ei Mawrhydi neu Ei Fawrhydi, neu Windsor

Gwneud cais i gofrestru’ch elusen

Cynhwyswch unrhyw enwau gweithredol mae’ch elusen yn eu defnyddio, neu bydd yn eu defnyddio.

Cynhwyswch gyfieithiadau o unrhyw eiriau sydd ddim yn Saesneg mewn unrhyw brif enw neu enw gweithredol.

Nid ydym yn gallu gwarantu, cadw nac awgrymu enw.

Gofynion ychwanegol ar gyfer enwau sefydliadau elusennol corfforedig (CIO)

Mae’n rhaid i bob CIO gael cymeradwyaeth Tŷ’r Cwmnïau i ddefnyddio geiriau sensitif penodol yn eu prif enw neu enw gweithredol. Am restr o eiriau sensitif, darllewnch Canllawiau Tŷ’r Cwmnïau.

Bydd angen cymeradwyaeth Tŷ’r Cwmnïau arnoch hefyd os ydych chi’n cynllunio newid prif enw neu enw gweithredol eich CIO i gynnwys gair sensitif.

Nid oes angen cymeradwyaeth Tŷ’r Cwmnïau arnoch os mai’r unig eiriau sensitif yn enw eich CIO yw:

  • elusen
  • elusennol
  • cymdeithas
  • sefydliad
  • ymddiriedolaeth

Os oes angen cymeradwyaeth arnoch o Dŷ’r Cwmnïau i ddefnyddio gair sensitif neu nad ydych yn siwr a yw gair rydych am ei ddefnyddio yn sensitif, e-bostiwch enquiries@companieshouse.gov.uk. Defnyddiwch ‘CIO’ yn y llinell pwnc ac esboniwch pam bod eisiau defnyddio’r gair sensitif arnoch.

Bydd rhai geiriau sensitif yn gofyn hefyd am Ddatganiad Peidio Gwrthwynebu o adran llywodraeth arall. Darllenwch y canllawiau o Dŷ’r Cwmnïau i wirio os yw hyn yn gymwys i chi. Er enghaifft, os oes eisiau defnyddio’r gair ‘Yswiriant’ arnoch yn eich enw, bydd angen Datganiad Peidio Gwrthwynebu arnoch gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Anfonwch y datganiad hwn at Dŷ’r Cwmnïau pan fyddwch yn gofyn am gymeradwyaeth i enw’ch CIO.

Gofynion ychwanegol ar gyfer enwau cwmnïau elusennol

Gallwch ddefnyddio’r geiriau ‘elusen’, ‘elusennau’ neu ‘elusennol’ ym mhrif enw neu enw gweithredol eich cwmni elusennol ond bydd angen cymeradwyaeth arnoch gan y Comisiwn Elusennau cyn i chi allu cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.

I ofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau, pan fyddwch yn ceisio cofrestru fel elusen rhowch wybod i’r Comisiwn Elusennau bod Datganiad Peidio Gwrthwynebu yn ofynnol i chi gan gadarnhau bod gennych ganiatâd i ddefnyddio’r geiriau hyn yn eich prif enw neu enw gweithredol. Bydd angen i chi ddarparu’r datganiad hwn pan fyddwch yn cofrestru a Thŷ’r Cwmnïau.

Os yw’ch cwmni elusennol wedi’i gofrestru eisoes â Thŷ’r Cwmnïau, nid oes angen Datganiad Peidio Gwrthwynebu arnoch os ydych am newid eich enw i gynnwys gair sensitif.

Anghydfodau dros brif enw neu enw gweithredol

Dylech ddatrys unrhyw anghydfodau, rhwng ymddiriedolwyr neu ag elusen wahanol, dros y cynnig i fabwysiadu neu newid enw’ch elusen cyn i chi fabwysiadu enw, ceisio cofrestru’ch elusen, neu newid enw.

Byddwn yn cymryd rhan yn unig os:

  • ydym yn ystyried nad yw enw elusen yn cydymffurfio â’r adran ‘Gofynion ar gyfer holl enwau elusennau’ uchod, a
  • bod risg y bydd yr enw’n achosi dryswch, anfantais neu niwed, megis effaith ar gyfraniadau i elusen sy’n bodoli ag enw tebyg

Gwybodaeth gefnogol

Os yw’ch elusen yn elusen sy’n bodoli a’ch bod yn ystyried newid eich prif enw neu enw gweithredol, mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gael:

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 June 2023 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. We have added information on rules on sensitive words in the names of charitable incorporated organisations (CIOs)

  3. First published.