Cofrestru i bleidleisio
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol er mwyn i chi allu pleidleisio mewn etholiadau a refferenda yn y DU
- optio allan o’r gofrestr ‘agored’ - y fersiwn o’r gofrestr etholiadol sydd ar gael i unrhyw un ei phrynu
- diweddaru eich enw, eich cyfeiriad neu’ch cenedligrwydd drwy ailgofrestru gan ddefnyddio eich manylion newydd (os ydych yn byw yn y DU)
Mae proses wahanol i gofrestru’n ddienw, er enghraifft os ydych yn bryderus ynghylch eich diogelwch neu ddiogelwch rhywun yn eich aelwyd.
Gallwch gadarnhau a ydych eisoes wedi’ch cofrestru i bleidleisio drwy gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cofrestrwch ar-lein
Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru fel arfer – nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os byddwch wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich cenedligrwydd.
Mae’n cymryd tua 5 munud fel arfer.
Beth mae angen i chi wybod
Rhagor o wybodaeth Gofynnir am eich rhif Yswiriant Gwladol (ond gallwch gofrestru o hyd os nad oes gennych un).
Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Pwy all gofrestru i bleidleisio
Gallwch gofrestru i bleidleisio hyd at ddwy flynedd cyn i chi gyrraedd yr oedran pleidleisio - cadarnhewch y rheolau o ran pleidleisio yn y DU.
Os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i bleidleisio.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.
Gallwch hefyd gofrestru os ydych wedi cael caniatâd (neu nid oes angen caniatâd arnoch) i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno a’ch bod:
- yn ddinesydd o’r Gymanwlad (gan gynnwys dinasyddion Cyprus a Malta)
- yn ddinesydd o Ddenmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Sbaen
- yn ddinesydd o wlad arall yn yr UE oedd, ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020, wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno (neu nid oedd angen caniatâd arno), ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Os ydych yn byw yng Nghymru neu’r Alban
Mae’n rhaid i chi fod yn 14 oed neu drosodd i bleidleisio.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.
Gallwch hefyd gofrestru ydych wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno, neu os nad oes angen caniatâd o’r fath arnoch.
Os ydych yn byw dramor
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor os ydych wedi byw yn y DU yn flaenorol a’ch bod naill ai:
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn ddinesydd Gwyddelig cymwys sy’n cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
Bydd angen i chi roi cod post y cyfeiriad diwethaf yn y DU lle roeddech wedi’ch cofrestru i bleidleisio.
Os nad ydych erioed wedi cofrestru i bleidleisio, bydd angen i chi roi cod post y cyfeiriad diwethaf yn y DU lle roeddech yn byw.
Cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os na allwch gofio ym mha gyfeiriad roeddech wedi’ch cofrestru ddiwethaf.
Efallai y gofynnir am fanylion eich pasbort hefyd.
Bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor bob tair blynedd.
Mae ffordd wahanol o gofrestru fel etholwr tramor os ydych:
- yn cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
- yn cofrestru fel un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council
- yn cofrestru fel aelod o’r lluoedd arfog
Dysgwch fwy am bleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor.
Cofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur
Gallwch gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd angen i chi argraffu’r ffurflen, ei llenwi a’i hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Mae ffurflen bapur wahanol os ydych yn cofrestru yng Ngogledd Iwerddon. Dylech ddychwelyd y ffurflen i Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI).
Cael cymorth i gofrestru
Gallwch gael cymorth i gofrestru gan eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Mae canllaw hawdd ei ddeall am gofrestru i bleidleisio.
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Bydd hefyd yn ymddangos ar y gofrestr ‘agored’ oni bai eich bod wedi gofyn i optio allan wrth gofrestru.
Yna gallwch:
- bleidleisio yn bersonol
- gwneud cais am bleidlais bost
- gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy