Skip to main content

Pleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor

Sgipio cynnwys

Adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor fel pleidleisiwr tramor.

Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob tair blynedd er mwyn parhau i bleidleisio yn etholiadau’r DU. Byddwch yn cael nodyn atgoffa gan eich swyddfa cofrestru etholiadol yn y DU pan fydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, rhaid eich bod wedi:

  • cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • cael neges e-bost neu lythyr gan eich swyddfa cofrestru etholiadol yn y DU yn eich atgoffa i adnewyddu eich cofrestriad erbyn 1 Tachwedd 2026

Adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio ar-lein

Bydd angen eich cod mynediad 9 digid arnoch. Gallwch ddod o hyd i’r cod hwn yn eich nodyn atgoffa a anfonwyd drwy e-bost neu lythyr.

Adnewyddu ar-lein

Os na allwch adnewyddu eich cofrestriad ar-lein

Gallwch adnewyddu eich cofrestriad drwy ddefnyddio ffurflen bapur os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Bydd y ffurflen wedi’i chynnwys gyda’ch nodyn atgoffa a anfonwyd drwy e-bost neu lythyr.

Cwblhewch y ffurflen a’i hanfon i’ch swyddfa cofrestru etholiadol drwy e-bost neu’r post. Bydd y cyfeiriad wedi’i gynnwys ar y ffurflen.

Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol os bydd angen copi o’r ffurflen arnoch.

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol os:

  • byddwch am gadarnhau pryd y bydd angen i chi adnewyddu
  • byddwch am gadarnhau a ydych eisoes wedi cofrestru
  • nad ydych chi am adnewyddu eich cofrestriad gan eich bod yn dychwelyd i fyw yn y DU yn barhaol
  • ydych chi wedi newid eich enw ers y tro diwethaf i chi gofrestru neu adnewyddu eich cofrestriad
  • ydych chi wedi colli’r neges e-bost neu’r llythyr gyda’ch cod mynediad 9 digid