Pleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor
Os ydych yn y lluoedd arfog, yn un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council
Mae ffyrdd gwahanol o gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r DU os ydych yn gweithio dramor naill ai:
- yn y lluoedd arfog
- fel un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council
Gwasanaethu dramor yn y lluoedd arfog
Cofrestrwch i bleidleisio gan ddefnyddio gwasanaeth cofrestru’r lluoedd arfog.
Os ydych yn gwasanaethu y tu allan i’r DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr ‘yn y lluoedd arfog’. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith bob pum mlynedd y mae’n rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council
Defnyddiwch y gwasanaeth cofrestru ar gyfer gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU ac yn gweithio fel:
- un o weision y Goron (er enghraifft, gwasanaeth sifil tramor neu wasanaeth diplomyddol)
- aelod o staff y British Council