Pleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor
Trosolwg
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor os byddwch yn symud neu’n byw dramor.
Rhaid eich bod wedi byw yn y DU yn flaenorol, a’ch bod naill ai:
-
yn ddinesydd Prydeinig
-
yn ddinesydd Gwyddelig cymwys sy’n cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r rheolau’n wahanol os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i gofrestru fel pleidleisiwr tramor
I bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban cofrestrwch i bleidleisio yn y ffordd arferol.
I bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, cofrestrwch gan ddefnyddio ffurflen bapur.
Mae ffyrdd gwahanol o gofrestru os ydych yn gweithio dramor yn y lluoedd arfog, fel un o weision y Goron neu fel aelod o’r British Council.
Adnewyddu eich cofrestriad
Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob tair blynedd er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r DU pan fyddwch dramor.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto fel pleidleisiwr tramor.
Pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt
Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU os ydych wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.
Ffyrdd y gallwch bleidleisio fel pleidleisiwr tramor
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch naill ai:
- bleidleisio drwy’r post
- pleidleisio drwy ddirprwy (os ydych yn gymwys)
- pleidleisio’n bersonol
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, gallwch naill ai:
- bleidleisio drwy ddirprwy (os ydych yn gymwys) - bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur
- pleidleisio’n bersonol
Ni allwch bleidleisio drwy’r post os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych am bleidleisio’n bersonol
Gallwch bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio yr oeddech yn ei defnyddio pan roeddech yn byw yn y DU. Os nad oeddech wedi’ch cofrestru i bleidleisio pan roeddech yn byw yn y DU, gallwch bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio sy’n gymwys i’r man lle roeddech yn arfer byw.
Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi.
Os nad ydych yn siŵr pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â’r swyddfa cofrestru etholiadol ar gyfer y man lle roeddech yn arfer byw.