Cofrestru i bleidleisio
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i gofrestru i bleidleisio neu i wneud y canlynol:
- diweddaru eich enw, eich cyfeiriad neu’ch manylion eraill ar y gofrestr etholiadol
- newid eich dewisiadau pleidleisio, e.e. pleidleisio yn bersonol neu drwy’r post
- newid a ydych chi ar y gofrestr agored ai peidio
Mae’n cymryd tua 5 munud fel arfer.
Efallai y bydd angen y canlynol arnoch, os oes gennych chi nhw:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich pasbort os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor
Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio mewn etholiadau a refferenda.
Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn barod, rhaid i chi gofrestru erbyn 7 Mehefin os ydych am bleidleisio yn y refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin.
Ni allwch gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ar 5 Mai ddim mwy.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch hefyd gofrestru drwy’r post (PDF, 153KB).
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg hefyd.
Does dim modd i chi gofrestru i bleidleisio os ydych chi yn y DU yn anghyfreithlon.
Gweision cyhoeddus sy’n cael swydd dramor
Mae yna wasanaethau cofrestru ar wahân i weision cyhoeddus sy’n debygol o gael swydd dramor:
- Gweision y Goron (PDF, 180KB) (e.e. gwasanaeth llysgenhadol, gwasanaeth sifil dramor)
- Aelod o staff y Cyngor Prydeinig
- lluoedd arfog (PDF, 183KB)
Mae’n dal yn bosibl i chi gofrestru fel pleidleisiwr nad yw’n y lluoedd arfog os ydych chi yn y lluoedd arfog a bod gennych chi gyfeiriad cartref parhaol yn y DU.
Gogledd Iwerddon
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban yn unig.
Bydd angen i chi gofrestru â ffurflen wahanol os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon.