Skip to main content

Gwirio eich taliadau budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio eich taliadau nesaf a thaliadau diweddar ar gyfer:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) - pob math
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) - pob math
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wirio:

  • pryd y byddwch yn derbyn eich taliad nesaf a faint fydd y taliad
  • y taliadau rydych wedi’u derbyn yn ystod y 3 mis diwethaf

I wirio eich taliadau Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

I wirio taliadau unrhyw fudd-dal arall, cysylltwch â’r tîm budd-daliadau yn uniongyrchol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Os ydych wedi symud cyfeiriad ac nad ydych wedi dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mae angen i chi roi gwybod am hynny fel newid mewn amgylchiadau cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Byddwch angen GOV.UK One Login i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwch yn gallu creu GOV.UK One Login os nad oes gennych un yn barod.

Dywedir wrthych pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen i chi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru.

Pwy sydd ddim yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • rydych yn benodai neu’n rheoli budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth rhywun arall
  • rydych yn byw y tu allan i’r DU (Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon)

Mae angen i chi gysylltu â’r tîm budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth yn uniongyrchol: