Canllawiau

Polisi'r Comisiwn Elusennau ar enwau

Os nad yw'ch cwmni yn elusen, mae angen caniatâd y Comisiwn Elusennau arnoch i ddefnyddio'r geiriau 'elusen', 'elusennau' neu 'elusennol' (a elwir yn eiriau sensitif) yn ei enw.

Applies to England and Wales

Polisi’r comisiwn ar ddefnyddio geiriau sensitif gan gwmnïau anelusennol

Yn gyffredinol mae’r comisiwn yn gwrthwynebu unrhyw gynnig i ddefnyddio’r geiriau ‘elusen’, ‘elusennau’ neu ‘elusennol’ (a elwir yn eiriau sensitif) yn enwau cwmnïau neu fusnesau anelusennol.

Mae’r comisiwn yn derbyn y gall fod eithriadau i’r rheol gyffredinol hon ac mae ein datganiad polisi yn OG330 Enwau Elusennau adran E13 yn amlinellu’r amgylchiadau pan allai hyn ddigwydd.

Os ydych yn credu, ar ôl darllen ein datganiad polisi, bod rhesymau eithriadol yn gymwys yn achos eich cwmni chi, bydd rhaid i chi wneud cais am ‘ddatganiad dim gwrthwynebiad’ gan y comisiwn gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

I gael ein caniatâd, bydd rhaid i chi ddangos bod y geiriau:

  • yn hollbwysig i ddisgrifio beth mae’ch busnes yn ei wneud

  • caiff ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n glir nad yw’ch busnes yn elusen

Yn y ffurflen bydd rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth a’r dystiolaeth ganlynol yn eich cais ar gyfer datganiad dim gwrthwynebiad i’n helpu i wneud ein penderfyniad.

1) Manylion am ddibenion a gweithrediad y cwmni:

  • sut y bydd yn gweithredu’n ymarferol, gan gynnwys sut y caiff y cwmni ei farchnata a

  • sut y bydd yn adnabod ac yn cofrestru cleientiaid, cwsmeriaid neu elusennau

Gall fod o gymorth hefyd i ddarparu unrhyw lenyddiaeth farchnata, astudiaeth ddichonoldeb neu gynllun busnes.

2) Manylion ynghylch sut na chaiff y cyhoedd ei gamarwain i feddwl bod y cwmni yn elusen ar wahân i nodi hynny ar unrhyw wefan.

3) At beth fydd y cwmni yn cyfeirio ei waith? Sut byddwch yn sicrhau y bydd eich cleientiaid/camamseriad yn elusennau neu’n hyrwyddo dibenion elusennol yn unig?

4) Pa fantais fydd gwaith y cwmni yn ei gynnig i’r sector elusennol? Rhowch dystiolaeth.

5) Manylion llawn a phenodol am unrhyw daliadau y mae’r cwmni yn eu codi am ei wasanaethau ac erbyn pryd y maent yn daladwy.

6) Sut mae gwaith y cwmni arfaethedig yn wahanol i sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau a chyfleoedd tebyg i elusennau nad ydynt yn defnyddio unrhyw un o’r geiriau sensitif yn eu henw?

7) Manylion am y costau/cyflogau a’r elw disgwyliedig sy’n gysylltiedig â rhedeg y cwmni.

8) Manylion ynghylch sut y gallai gwrthdaro buddiannau gael ei reoli, er enghraifft, gydag unrhyw ddarparwyr trydydd parti/cwmnïau eraill yn y grŵp ac ati.

9) Unrhyw wybodaeth arall y teimlwch sy’n berthnasol i helpu’r cwmni i wneud ei benderfyniad.

Gallech chi hefyd ddarllen canllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar enwau cwmnïau cyn eich bod yn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio’r geiriau ‘elusen’ neu ‘elusennol’ mewn enw cwmni anelusennol.

Yn achos cwmnïau elusennol sy’n defnyddio’r geiriau ‘elusen, ‘elusennau’ neu ‘elusennol gweler ein canllawiau yn Defnyddio elusen mewn enw.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2013