Canllawiau

Y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Dysgwch am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol os ydych yn cynhyrchu diod wirodol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Mae’n rhaid i chi wneud cais i CThEF am ddilysiad o dan y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol os ydych yn cynhyrchu neu’n marchnata diod wirodol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Mae Dynodiadau Daearyddol yn nodi cynhyrchion fel rhai sy’n tarddu o diriogaeth gwlad, neu ranbarth neu ardal yn y diriogaeth honno, lle gellir priodoli ansawdd, enw da neu nodwedd arall i’w darddiad daearyddol.

Mae’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol yn diogelu enw da a dilysiad y diodydd gwirodol sydd â Dynodiad Daearyddol yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Wisgi Albanaidd
  • Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig a Wisgi Tatws Gwyddelig
  • Seidr Brandi Gwlad yr Haf
  • Wisgi Cymreig Brag Sengl

Cyn i chi ddechrau’r broses gynhyrchu

Ewch ati i gael gwybod a oes angen i chi wneud cais i gael dilysiad a thalu’ch ffi dilysu.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth bellach

Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd yn y gwasanaeth chwilio’n cael ei diweddaru’n ddyddiol.

Gallwch gysylltu â’r Uned Dilysu Diodydd Gwirodol drwy e-bostio enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych am gael yr wybodaeth ddiweddaraf
  • rydych am gael cadarnhad bod eich cais wedi dod i law
  • rydych yn meddwl bod manylion cyhoeddus yn anghywir neu fod manylion ar goll
  • rydych yn ymwybodol o frand sy’n cael ei farchnata nad yw ar y rhestr

Rôl CThEF

Yn y DU, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am bolisi mewn perthynas â Dynodyddion Daearyddol.

Rôl CThEF yw gwirio a yw cynhyrchion yn cydymffurfio â’r manylebau yn y Ffeil Dechnegol briodol a chyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu, prosesau wedi’u dilysu, mewnforwyr swmp a brandiau wedi’u dilysu.

Nid yw rôl CThEF yn ymwneud â gorfodaeth. Yr awdurdodau gorfodi dynodedig yw’r ‘awdurdodau bwyd’ ac’ ‘awdurdodau iechyd y porthladdoedd’. Pan fo’n briodol a phan ganiateir hynny, bydd CThEF yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r awdurdodau hyn fel y gallant weithredu.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
  1. Page updated with information on Single Malt Welsh Whisky.

  2. Information about planned service outages on the Spirit Drinks Verification Scheme Lookup service added.

  3. First published.