Canllawiau

Gwneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Dysgwch sut i wneud cais i gael eich dilysu a’r hyn sy’n digwydd os na fyddwch yn gwneud hyn.

Pwy ddylai wneud cais

Gwnewch gais i gael dilysiad o dan y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol perthnasol os:

Mae rheolau gwahanol os ydych yn blendio neu’n potelu ac yn labelu Wisgi Albanaidd y tu allan i’r Alban neu os ydych yn mewnforio swmp o Wisgi Albanaidd.

Os ydych yn berchennog brand a bod eich brandiau’n cael eu blendio neu eu potelu gan rywun arall ar eich rhan

Yn yr achos hwn, does dim angen i chi wneud cais i CThEF am ddilysiad. Yr un sy’n blendio neu’n potelu eich brandiau sydd â’r cyfrifoldeb o wneud cais am ddilysiad ac am roi gwybod i CThEF am eich brandiau. Ni fyddwch yn gallu marchnata unrhyw frandiau heb roi gwybod i CThEF. Dylai’r un sy’n potelu anfon cais ar gyfer brandiau i’r holl safleoedd sy’n gysylltiedig â photelu a labelu’r brand hwnnw. Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb y gweithredwyr sy’n blendio’n unig yw rhoi gwybod i frandiau o ran y cynnyrch terfynol.

Pryd i wneud cais

Os ydych yn gynhyrchydd neu’n fewnforiwr swmp, mae’n rhaid i chi wneud cais am ddilysiad cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ymwybodol bod angen i chi wneud hyn. Dylid gwneud hyn cyn dechrau cynhyrchu neu fewnforio.

Os ydych yn ymwneud â’r prosesau a restrir uchod, bydd angen i chi wneud cais i gael dilysiad ar gyfer pob safle sy’n cynhyrchu diodydd gwirodol â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r cynhyrchydd, ei gyfeiriad a’i rhif ffôn
  • enw pob safle yr hoffech eu cofrestru
  • enw pob safle, eu cyfeiriad a’r cyfnod cau, os yw’n berthnasol
  • manylion bilio
  • y prosesau cynhyrchu

Sut i wneud cais

Gwneud cais am ddilysiad ar-lein.

O dan amgylchiadau cyfyngedig, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn cais ar bapur yn hytrach nag yn electronig. Er enghraifft, os yw’r cyfarwyddwyr neu swyddogion y cwmni yn aelodau gweithredol o gymdeithas grefyddol neu orchymyn nad yw eu credoau’n cyd-fynd â defnyddio dulliau cyfathrebu electronig.

I wneud hyn, bydd angen i chi gwblhau’r cais ar-lein, ei argraffu a’i anfon i:

Uned Dilysu Diodydd Gwirodol/Spirit Drinks Verification Unit
Large Business
LB Scotland & N Ireland
S1754
Newcastle
NE98 1ZZ

Os nad yw’ch cais i gael eich dilysu wedi’i gwblhau, gall arwain at oedi o ran:

  • cael eich derbyn i’r cynllun gwirio
  • ymweliadau dilysu dilynol
  • eich gallu i gynhyrchu diodydd gwirodol â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig a’u marchnata’n gyfreithlon

Os na fyddwch yn gwneud cais

Os na fyddwch yn gwneud cais i gael eich dilysu, ni fydd eich prosesau cynhyrchu yn cael eu sicrhau ac ni fydd unrhyw Wisgi Albanaidd, Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig, Wisgi Tatws Gwyddelig, Seidr Brandi Gwlad yr Haf na Wisgi Cymreig Brag Sengl y byddwch yn eu cynhyrchu neu eu marchnata yn cael eu dilysu ac felly ni ellir eu rhoi ar y farchnad. Mae hyn oherwydd nad yw’n bosibl dilysu cynhyrchion yn ôl-weithredol.

Er nad oes cosbau ariannol am fethu â gwneud cais am ddilysiad, mae’n anghyfreithlon i chi a’ch cwsmeriaid i gynhyrchu neu farchnata diodydd gwirodol gwarchodedig nad ydynt wedi’u dilysu gan CThEF. Os byddwch yn gwneud hynny, efallai y byddwch chi neu’ch cwsmeriaid yn agored i gamau gorfodi.

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd eich cais yn cael ei dderbyn oni bai ei fod yn cael ei ddychwelyd atoch i’w gywiro. Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau canlyniad eich cais i gael eich dilysu.

Bydd eich cais yn berthnasol cyn belled â’ch bod yn aros yn y cynllun dilysu. Nid oes angen i chi wneud cais arall.

Bydd CThEF yn defnyddio’r wybodaeth o’ch ffurflen gais i wneud y canlynol:

  • cyhoeddi anfonebau
  • trefnu a chyflawni ymweliadau dilysu
  • rheoli’r cynllun dilysu
  • cyhoeddi manylion cynhyrchwyr a brandiau sydd wedi’u dilysu ar ein gwasanaeth chwilio (yn Saesneg)

Bydd CThEF yn anfon anfoneb atoch fel y gallwch dalu’ch ffi dilysu. Mae’n rhaid i chi dalu hyn cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb.

Bydd prosesau cynhyrchu yn parhau i gael eu dilysu fel rhan o’r cylch gwirio dwy flynedd, cyn belled nad oes unrhyw doriadau o’r rheoliadau na’r Ymrwymiadau. Codir tâl arnoch am y gwasanaethau dilysu y byddwch yn eu cael nes eich bod am dynnu’n ôl o’r cynllun.

Os ydych yn flendiwr neu’n potelu ac yn labelu Wisgi Albanaidd y tu allan i’r Alban

Byddwch yn aros ar restr y gwasanaeth chwilio sy’n nodi bod gennych brosesau sicr, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r Ymrwymiad sy’n cwmpasu symud swmp o Wisgi Albanaidd o’r Alban. Mae’n rhaid i chi adnewyddu’ch Ymrwymiad bob dwy flynedd drwy wneud cais arall ar-lein. Unwaith y byddwch wedi anfon eich cais am yr Ymrwymiad, dylech hefyd anfon y dystiolaeth at CThEF i ddangos eich bod yn cydymffurfio â’r Ymrwymiad. Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau sy’n ymwneud â’r brandiau rydych yn eu potelu, yn ogystal â’u labeli.

Os ydych yn fewnforiwr swmp o Wisgi Albanaidd

Gwnewch gais ar-lein i gael dilysiad fel mewnforiwr swmp.

Byddwch yn aros ar restr y gwasanaeth chwilio cyn belled â’ch bod yn cydymffurfio â’r Ymrwymiad sy’n cwmpasu symud swmp o Wisgi Albanaidd. Mae’n rhaid i chi adnewyddu’ch Ymrwymiad bob dwy flynedd drwy ail-ymgeisio ar-lein. Os nad ydych yn dymuno cael eich dilysu bellach, dylech roi gwybod i CThEF.

Nid yw gwneud cais i gael dilysiad, cael manylion prosesau sicr eich cyfleusterau cynhyrchu neu frandiau wedi’u dilysu wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan yn gymeradwyaeth gan CThEF o’ch busnes. Nid yw chwaith yn arwydd o’ch cydymffurfiaeth treth.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

I ddysgu am gynhyrchu, darllenwch yr arweiniad technegol perthnasol:

Cyhoeddwyd ar 20 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
  1. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  2. Somerset Cider Brandy has been added to the UK Geographical Indication (GI) verification schemes.

  3. Spirits Drinks Verification Look-up Facility section has been updated.

  4. Spirits Drinks Verification Look-up Facility section has been updated.

  5. The Irish whiskey, Irish cream and Irish poteen verification link added to Overview section on this page. The first heading in the Apply section has been changed to Scotch whisky producers based in Scotland and Irish whiskey/cream/poteen producers based in Northern Ireland Irish whiskey/cream/poteen producers should select ‘Other Geographical Indicators’ and type in the appropriate Irish product.

  6. The list of verified facilities and processes outside Scotland has been updated.

  7. List of verified facilities and processes outside Scotland spreadsheet updated as of September 2015

  8. List of verified facilities and processes outside Scotland spreadsheet updated as of July 2015.

  9. List of verified facilities and processes outside Scotland spreadsheet updated as of May 2015.

  10. List of verified facilities and processes outside Scotland spreadsheet updated as of March 2015.

  11. Guidance update on the introduction of a new on line look up service for verified Bulk Importers of Scotch Whisky and production facilities outside Scotland.

  12. First published.