Canllawiau

Cynhyrchu Jin Botanegol Brodorol Dyfi

Dysgwch sut i wneud cais i’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, talu ffioedd a chydymffurfio â’r fanyleb cynnyrch ar gyfer Jin Botanegol Brodorol Dyfi.

Cynhyrchwyr newydd o Jin Botanegol Brodorol Dyfi

Mae Jin Botanegol Brodorol Dyfi yn ddiod gwirodol sydd wedi’i warchod o dan Gynllun Dynodiad Daearyddol y DU (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn golygu, os ydych chi am ei gynhyrchu a’i farchnata yn y DU, fod angen i chi wneud y canlynol:

  1. Gwneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ddechrau’r broses gynhyrchu.

  2. Cydymffurfio â’r fanyleb cynnyrch perthnasol (yn agor tudalen Saesneg) unwaith i chi ddechrau’r broses gynhyrchu.

Mae’n anghyfreithlon i gynhyrchu a marchnata Jin Botanegol Brodorol Dyfi sydd heb gael ei ddilysu gan CThEF. Gallai hyn hefyd dorri cyfreithiau lleol mewn gwledydd lle mae Jin Botanegol Brodorol Dyfi yn cael ei warchod o dan gynllun dynodiad daearyddol.

Ar ôl i chi wneud cais i ddilysu

Unwaith i chi wneud cais i’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, byddwn yn anfon anfoneb atoch sy’n cynnwys eich ffi gychwynnol ar gyfer cofrestru a dilysu.

Darllenwch ragor am sut a phryd i dalu ffioedd y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol (yn agor tudalen Saesneg).

Ymweliadau dilysu

Unwaith i chi dalu’ch ffioedd, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad dilysu. Mae hyn er mwyn gwirio bod eich holl brosesau cynhyrchu yn cydymffurfio â’r fanyleb cynnyrch ar gyfer Jin Botanegol Brodorol Dyfi. Byddwn ond yn ymweld â safleoedd cynhyrchu yn y DU.

Bydd ymweliad dilysu yn cynnwys gwiriadau ar eich:

  • anfonebau
  • cofnodion dosbarthu
  • offer
  • gweithdrefnau

Darllenwch y rhestr gyflawn o wiriadau rydym yn eu cynnal yn rhestr wirio dilysu Jin Botanegol Brodorol Dyfi (yn agor tudalen Saesneg) (PDF, 172 KB, 11 tudalen).

Pa mor aml bydd angen i ni ddilysu’ch prosesau

Fel arfer, bob 2 flynedd y bydd angen i ni eich dilysu. Gall hyn newid os yw’r canlynol yn wir:

  • bod angen cynnal dilysiad yn amlach
  • ein bod wedi cytuno i gyfnod hirach â chi

Os yw’ch prosesau cynhyrchu’n cydymffurfio

Os ydym yn fodlon bod eich prosesau’n cydymffurfio, byddwn yn gwneud y canlynol:

Os nad yw’ch prosesau cynhyrchu’n cydymffurfio

Rydym yn dod o hyd i brosesau cynhyrchu sydd ddim yn cydymffurfio drwy’r canlynol: 

  • ymweliadau dilysu 
  • cael gwybod gan gynhyrchwyr eraill 
  • gwybodaeth a ddarperir gan aelodau o’r cyhoedd

Os nad yw’ch prosesau’n cydymffurfio, byddwn yn trafod â chi sut y gallwch newid hyn. Byddwn yn cytuno i gyfnod amser rhesymol i chi wneud y newidiadau sydd eu hangen.

Os nad ydych yn gwneud y newidiadau hyn o fewn yr amser a gytunwyd, byddwn yn addasu, tynnu, neu ddim yn cynnwys eich manylion ar Gyfleuster Chwilio’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol. Ni fyddwch wedi’ch dilysu mwyach i gynhyrchu a marchnata Jin Botanegol Brodorol Dyfi. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cwsmeriaid ynglŷn â’r newid hwn.

Nid yw rôl CThEF yn ymwneud â gorfodaeth. Gwneir hyn gan awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladdoedd. Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, pan ganiateir hynny a phan fo’n briodol, ynglŷn â phrosesau sydd ddim yn cydymffurfio, er mwyn iddynt allu cymryd camau gweithredu.

Cynhyrchwyr presennol o Jin Botanegol Brodorol Dyfi

Byddwn yn eich trin fel pe baech wedi’ch ddilysu tan 1 Medi 2026, os oeddech naill ai:

  • eisoes yn cynhyrchu Jin Botanegol Brodorol Dyfi ar 19 Mai 2022
  • wedi dechrau cynhyrchu Jin Botanegol Brodorol Dyfi cyn 1 Medi 2025

Cyn pen 30 diwrnod o 1 Medi 2025, mae’n rhaid i chi sicrhau:

Mae angen i ni fod yn fodlon y bydd eich prosesau cynhyrchu yn bodloni’r fanyleb cynnyrch (yn agor tudalen Saesneg), ac yn gallu cadarnhau hyn ar ôl ymweliad dilysu.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn gallu ôl-ddyddio’r dilysiad i ddyddiad y cais. Ni allwn roi sicrwydd am hyn — bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’ch cais.

Cysylltu â ni

E-bostiwch yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych gwestiynau ynglŷn â’ch cais
  • mae angen rhagor o gyngor arnoch
  • mae angen newid eich manylion

Rhoi gwybod am gynhyrchion heb eu dilysu

Os oes gennych bryderon am gynhyrchion heb eu dilysu, dylech gysylltu â’r awdurdod bwyd lleol neu’r awdurdod iechyd porthladdoedd. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y rhain drwy wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Medi 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon