Canllawiau

Paratoi ar gyfer ymweliad mewn perthynas â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Dysgwch am wiriadau dilysu a beth i’w ddisgwyl yn ystod ymweliad os ydych wedi gwneud cais i gael dilysiad ac wedi talu’r ffi ar gyfer y Cynllun.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais i gael dilysiad ac wedi talu’r ffi o dan y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, bydd CThEF yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad dilysu â’ch cyfleusterau cynhyrchu. Dim ond os ydych yn gynhyrchydd yn y DU byddwch yn cael ymweliad.

Bydd CThEF yn dilysu cynhyrchwyr bob dwy flynedd.

Ymweliadau dilysu

Bydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad dilysu. Byddwch yn gwirio bod eich prosesau cynhyrchu wedi cael eu sefydlu’n gywir fel y gallant ddilysu’ch cynhyrchion.

Mae’r gwiriadau dilysu’n wahanol ar gyfer pob un o’r diodydd yn y cynllun. Gallwch ddysgu am y gwiriadau yn yr arweiniad technegol ar gyfer cynhyrchu’r canlynol:

Os ydych wedi gwneud cais i ddilysu proses sydd y tu allan i’r DU, gallwch ddysgu rhagor yn yr arweiniad technegol perthnasol ar gyfer pob un o’r diodydd gwirodol.

Ar gyfer gwiriadau dogfennol, dylai’r dogfennau sydd angen eu harchwilio fel rhan o’ch ymweliad dilysu, er enghraifft cofnodion pryniannau cynhwysion neu gasgenni, fod ar gael ar y safle pan fydd ymweliad yn cael ei gynnal. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod y person sy’n cynnal yr ymweliad dilysu wedi cytuno i archwilio’r dogfennau ar adeg wahanol ac mewn lle gwahanol. Bydd eich swyddog dilysu yn trafod hyn gyda chi wrth drefnu’r ymweliad dilysu, ond eich cyfrifoldeb chi yw tynnu ei sylw at hyn hefyd.

Cwestiynau sy’n ymwneud â chydymffurfiad treth neu doll

Er ei bod yn bosibl y gellir mynd i’r afael â chwestiynau syml, ni ddylech ddisgwyl i’ch swyddog dilysu fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â chydymffurfiad treth neu doll yn ystod eich ymweliad. Nid yw’ch ymweliad dilysu’n gysylltiedig â ‘rheolaeth refeniw’ CThEF. Rydych yn gorfod talu am eich ymweliadau dilysu, felly mae’n bwysig i CThEF, ac i chi, bod gwahanol rolau’n cael eu trin ar wahân. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich swyddog dilysu yn cyfeirio manylion eich ymholiad at berson neu dîm addas, cyn gynted ag sy’n ymarferol, er mwyn cael ymateb llawn.

Cysylltwch â’ch Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM) i drafod pryderon o ran refeniw. Os nad oes gennych CCM, cysylltwch â CThEF.

Cyfleusterau cynhyrchu sicr

Bydd eich swyddog dilysu’n nodi bod prosesau’n rhai ‘sicr’ os ydynt yn cydymffurfio â’r Ffeil Dechnegol berthnasol. Gellir dilysu brand neu gyfleuster cynhyrchu dim ond pan fo’r holl brosesau cynhyrchu sydd dan sylw wedi’u dilysu.

Prosesau cynhyrchu nad ydynt yn cydymffurfio

Bydd prosesau’n cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn cydymffurfio os:

  • byddant wedi methu â chael sicrwydd
  • na fyddant wedi’u gwirio a’u sicrhau
  • na wnaethant gais i gael dilysiad, megis hepgor prosesau cynhyrchu yn eu cais i gael dilysiad

Os oes angen ail-ymweliad i gadarnhau bod eich prosesau cynhyrchu yn cydymffurfio gyda’r Ffeiliau Technegol Perthnasol bydd, CThEF yn codi ffi ychwanegol o £500 i dalu costau CThEF.

Cyhoeddi manylion cynhyrchu

Bydd CThEF yn cyhoeddi manylion y cyfleusterau sydd â phrosesau sicr ar y gwasanaeth gwirio diodydd gwirodol. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio a yw cyfleusterau cynhyrchu eraill y diwydiant wedi cael sicrwydd o ran eu prosesau, fel y gallwch sicrhau eich bod yn cael eich cynnyrch o leoliadau sydd â phrosesau sicr, yn ogystal ag anfon cynnyrch i’r lleoliadau hyn.

Ni chyhoeddir manylion y cyfleusterau cynhyrchu nad yw eu prosesau wedi’u sicrhau.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
  1. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  2. Technical guidance for verification checks of a process outside the UK have been updated.

  3. First published.