Canllawiau

Cyflwyno gwybodaeth am frand ar gyfer diodydd gwirodol sydd wedi’u dilysu

Dysgwch sut i gyflwyno gwybodaeth am frand i CThEF am Wisgi Albanaidd, Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig, Wisgi Tatws Gwyddelig, Brandi Seidr Gwlad yr Haf a Wisgi Cymreig Brag Sengl os ydych yn botelwr sydd wedi’i ddilysu.

Pwy ddylai gyflwyno gwybodaeth am frand

Unwaith bydd eich cynnyrch wedi cael ei ddilysu o dan y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, mae angen i botelwyr a’r rhai sy’n ail-botelu ac yn ail-labelu sydd wedi’u dilysu gyflwyno gwybodaeth am frand i CThEF. Bydd angen i bob cyfleuster sy’n gysylltiedig â photelu a labelu’r brand wneud cais brand ei hun.

Os yw brand yn cael ei labelu gan labelwr ar wahân, yn hytrach na photelwr sydd hefyd yn labelu’r cynnyrch, y labelwr ddylai gyflwyno manylion y brand.

Dylai perchnogion brand wirio bod yr wybodaeth hon yn gywir, yn enwedig wrth sillafu enw’r brandiau, gan y bydd CThEF yn cyhoeddi’r manylion a roddwyd i ni.

Bydd CThEF yn cyhoeddi manylion y brand ac enw perchennog y brand yn unig, nid y botelwr. Mae enw’r botelwr at ddefnydd mewnol yn unig.

Mae angen potelu a labelu Wisgi Cymreig Brag Sengl yng Nghymru.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i botelwyr sydd wedi’u dilysu gadarnhau’r canlynol pan fydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn gofyn iddynt wneud hynny:

  • enw’r brand
  • perchennog y brand

Dim ond disgrifiad ‘ambarél’ am frand bydd ei angen ar CThEF, ond byddwn yn cyhoeddi’r disgrifiad a ddarperir gan berchnogion brand drwy’r potelwr a’r labelwr. Fodd bynnag, byddai brand penodol yn cael ei nodi ar wahân ar wasanaeth chwilio CThEF pe bai brand yn peidio â bod yn ddilys mwyach ond lle nad oes effaith ar fersiynau eraill o’r un brand.

Sut i gyflwyno gwybodaeth am frand

Mae’n rhaid i botelwyr sydd wedi’u dilysu gyflwyno gwybodaeth am frand ar-lein.

Os bydd brand yn cael ei botelu neu ei labelu gan fwy nag un potelwr neu labelwr, dylai pob un sy’n potelu neu’n labelu’r brand hwnnw gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ar ôl i chi gyflwyno’r wybodaeth am frand

Unwaith y bydd brand wedi’i ddilysu, bydd CThEF yn cyhoeddi manylion enw a pherchennog y brand ar y gwasanaeth chwilio. Mae’r cofnod cyhoeddus hwn o frandiau wedi’u dilysu yn rhoi’r gallu i ddefnyddwyr, mewnforwyr ac awdurdodau tramor i wirio statws dilysu brand.

Ni fydd CThEF yn cyhoeddi manylion y potelwr nac yn nodi pa botelwr sy’n potelu’r brandiau. Mae hyn oherwydd ei fod yn bosib bod potelwyr neu labelwyr annibynnol yn cyflenwi nifer o gwsmeriaid â chynnyrch label eu hunain a:

  • gallai’r wybodaeth fod yn fasnachol sensitif
  • mae’n bosibl nad yw’r botelwr neu’r labelwr, na’u cwsmeriaid, am i’r manylion hyn fod ar gael i gystadleuwyr

Ar gyfer Wisgi Albanaidd â brand ei hun, disgwylir mai manylion perchennog y brand fydd ar y manylion cyhoeddus.

Dilysu brandiau byrhoedlog, fel potelu ar achlysuron megis pen-blwydd

Nid yw CThEF yn cyhoeddi dyddiad dod i ben ar gyfer brandiau dilys.

Mae statws dilysu brand yn dibynnu’n llwyr ar p’un ag oedd y prosesau a ddefnyddiwyd i’w greu yn cydymffurfio, neu’n parhau i wneud hynny. Mae’n bosibl bod rhai o’r brandiau yn ‘eitemau prin’ a gellir eu masnachu y tu hwnt i unrhyw ddyddiad dod i ben.

Fodd bynnag, pan fydd brand yn cael ei werthu i gynhyrchydd neu fod y cynhyrchu’n dod i ben, gall perchennog y brand wneud cais i CThEF i ddileu brand o’r rhestr o frandiau dilys y gellir eu priodoli iddo.

Bydd CThEF yn rhestru’r holl frandiau sydd wedi’u dilysu ar y gwasanaeth chwilio. Lle cawn wybod nad yw brand yn cael ei gynhyrchu mwyach, bydd y rhestr yn dangos dyddiad dod i ben (‘cessation date’). Nid yw hyn yn golygu nad yw’r brand yn gynnyrch dilys nac yn dangos nad yw wedi cael ei ddilysu – yn hytrach, mae’n dangos nad yw’r brand bellach yn cael ei gynhyrchu.

Sicrhau bod brandiau’n tarddu o brosesau sy’n cydymffurfio

Gan ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod ymweliadau dilysu, bydd CThEF yn dilyn trywydd y diodydd gwirodol yn ôl drwy’r gadwyn gynhyrchu, gan sicrhau bod y gwirod yn cael ei symud rhwng cyfleusterau cynhyrchu sy’n gweithredu dan brosesau sicr. Felly, mae’n ddoeth i weithredwyr i wirio’r manylion cyhoeddus, wrth iddynt gael eu rhyddhau, i sicrhau’r canlynol:

  • bod unrhyw gynnyrch sy’n cael ei ddisgrifio fel Wisgi Albanaidd, Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig, Wisgi Tatws Gwyddelig, Brandi Seidr Gwlad yr Haf neu Wisgi Cymreig Brag Sengl yn dod i law o gyfleuster cynhyrchu sydd â phrosesau sicr
  • os mai’r bwriad yw disgrifio’r cynnyrch fel Wisgi Albanaidd, Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig, Wisgi Tatws Gwyddelig neu Frandi Seidr Gwlad yr Haf, ei fod yn cael ei anfon i gyfleuster cynhyrchu sydd â phrosesau sicr

Os bydd un brand yn cael ei botelu neu ei labelu gan fwy nag un potelwr neu labelwr

Mae CThEF yn cydnabod gall cynnyrch sydd â brand ei hun gael ei gynhyrchu gan ddefnyddio mwy nag un potelwr neu labelwr, a’i bod yn annhebygol bod un potelwr neu labelwr yn ymwybodol bod cyfleuster cynhyrchu arall yn potelu neu’n labelu cynnyrch o’r un brand.

Os bydd un brand yn cael ei gynhyrchu gan fwy nag un potelwr neu labelwr, bydd angen dilysu pob un o’r prosesau cynhyrchu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Ffeil Dechnegol berthnasol. Mae hyn er mwyn cadw statws dilys y brand yn ogystal â’i gynnwys ar y rhestr gyhoeddus. Byddai angen i bob potelwr roi gwybod i ni am y brandiau maent yn eu potelu yn ogystal â manylion y perchennog.

Mae CThEF yn cydnabod y gallai hyn olygu nad yw’n bosibl cofnodi rhai o’r cynhyrchion sy’n cydymffurfio os ydynt cael eu effeithio gan statws proses wahanol nad yw’n cydymffurfio. Fodd bynnag, ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, gan nad yw CThEF yn medru bod yn sicr wrth ddilysu cynnyrch brandiau unigol na fydd methiant unrhyw un o’r prosesau cynhyrchu’n amharu ar statws dilys brand unigol.

Rhagor o wybodaeth

Os na fydd brand yn ymddangos yn y gwasanaeth chwilio gall hyn fod oherwydd nad yw wedi cael ei ddilysu neu oherwydd nad yw CThEF wedi cael gwybod amdano. Golyga hyn nad yw’n bosib marchnata’r brand yn gyfreithlon.

Os ydych o’r farn bod brand dilys wedi cael ei hepgor o’r rhestr o fanylion cyhoeddus ar ddamwain, dylech gysylltu â’r Uned Dilysu Diodydd Gwirodol drwy e-bostio enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk i nodi’ch pryderon. Bydd hyn yn golygu y gellir mynd ati i ymchwilio’r amgylchiadau a chymryd camau unioni, os oes angen gwneud hynny.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
  1. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  2. First published.