Canllawiau

Gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain

Gwasanaeth cyfryngu am ddim i setlo y tu allan i’r llys os ydych wedi cychwyn neu wedi cael hawliad am arian.

Cyfryngu i ddatrys anghydfod ariannol

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae’n helpu i ddatrys anghydfodau ariannol heb yr angen i gynnal gwrandawiad llys.

Byddwch yn gweithio gyda chyfryngwr hyfforddedig, niwtral o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, a fydd yn eich helpu i adnabod a datrys problemau.

Mae cyfryngu yn cael ei gynnig os:

  • yw’r holl bartïon sy’n rhan o’r achos eisiau defnyddio’r gwasanaeth
  • yw’r hawliad yn eich achos am swm i fyny at £10,000
  • ydych eisoes wedi gwneud neu wedi cael hawliad

Mae’r mathau o achosion lle gall cyfryngu fod yn fuddiol yn cynnwys:

  • cosbau parcio
  • siopa ar-lein
  • gwaith adeiladu
  • anfonebau heb eu talu
  • treuliau da byw neu anifeiliaid anwes

Gall cyfryngu fod yn rhatach ichi na mynd i’r llys, lle bydd ffioedd a threuliau ychwanegol yn daladwy.

Gall fod yn gyflymach na’r llys hefyd, gan gymryd 2-3 wythnos ar gyfartaledd i gael apwyntiad cyfryngu. Mae’r amser aros targed ar gyfer dyddiad gwrandawiad llys yn 30 wythnos.

Er gall cyfryngu eich helpu i osgoi mynd i’r llys, ni fydd yn achosi oedi gyda’ch proses llys gyfredol. Mae’n rhaid ichi barhau i gydymffurfio â holl gyfarwyddiadau’r llys.

Sut mae cyfryngu yn cael ei gynnig

Os ydych yn gwneud hawliad a bod y parti arall yn gwrthwynebu eich hawliad – neu, os gwneir hawliad yn eich erbyn ac rydych yn ei wrthwynebu – mae cyfryngu yn cael ei gynnig. Rhaid i’r ddau barti gytuno i gyfryngu.

Os bydd barnwr yn adolygu eich achos, gall y barnwr gyfarwyddo fod eich achos yn addas ar gyfer cyfryngu.

Unwaith y bydd y ddau barti wedi cytuno i gyfryngu, byddwch yn cael dyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad ffôn. Bydd yr apwyntiad yn para am hyd at 1 awr.

Eich apwyntiad cyfryngu

Yn ystod eich apwyntiad bydd y cyfryngwr:

  • yn siarad â phob parti ar wahân – ni fyddwch yn siarad yn uniongyrchol â’r parti arall
  • yn niwtral ac yn helpu bob parti i archwilio i wahanol opsiynau i geisio dod i gytundeb
  • ni fydd yn ceisio eich gorfodi i gytuno ar setliad

Cael y gorau o’r cyfryngu

Er mwyn rhoi cyfle i’r cyfryngu fod yn llwyddiannus, dylech:

  • gymryd rhan gydag ewyllys da, gyda’r bwriad o ddod i gytundeb
  • gweithio gyda’r cyfryngwr i ddod o hyd i ddatrysiad
  • gwrando ar y pwyntiau a wneir gan y parti arall
  • bod yn fodlon cyfaddawdu
  • meddu ar yr awdurdod i gytuno ar benderfyniad yn ystod yr apwyntiad cyfryngu

Gall rhywun arall eich cynrychioli yn yr apwyntiad cyfryngu – gall eich cynrychiolydd fod yn ffrind yr ydych yn ymddiried ynddynt, yn aelod o’ch teulu neu’n gyfreithiwr.

Ar ôl yr apwyntiad cyfryngu

Os bydd y cyfryngu’n llwyddiannus, byddwch yn dod i gytundeb ar lafar dros y ffôn. Bydd copi o’r setliad ar gael i’r ddau barti. Gall setliad fod mewn sawl ffurf, er enghraifft, taliad, nwyddau neu waith. Rhaid i’r ddau barti gytuno ar y canlyniad a theimlo eu bod wedi dod o hyd i ddatrysiad derbyniol.

Os bydd y naill barti neu’r llall yn mynd yn groes i delerau’r cytundeb, gall y parti arall fynd i’r llys i ofyn am ddyfarniad neu wrandawiad.

Os na fydd y cyfryngu yn llwyddiannus, a bod angen cynnal gwrandawiad llys, ni cheir cyfeirio at yr hyn a drafodwyd yn yr apwyntiad cyfryngu yn y llys.

Cysylltu â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain

Ffôn: 0300 123 4593

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

E-bost: scmreferrals@justice.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 28 September 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 August 2023 + show all updates
  1. Added Small claims mediation video.

  2. Added translation