Gwerthu neu brydlesu eiddo i rywun sy'n gysylltiedig â'ch elusen
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i gael cydsyniad y Comisiwn Elusennau i werthu neu brydlesu eiddo i rywun sy'n gysylltiedig â'ch elusen.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cyn dechrau arni
Darllenwch am werthu a phrydlesu eiddo elusen.
Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon os mai chi yw’r unigolyn y mae’r eiddo yn cael ei werthu neu ei brydlesu iddo neu iddi
Beth fydd angen i chi ddweud ar y ffurflen
Bydd rhaid i chi gael yr wybodaeth ganlynol wrth law:
- enw’r unigolyn neu unigolion cysylltiedig a sut y maent wedi’u cysylltu â’ch elusen
- esboniad llawn sy’n dangos pam bod gwerthu neu brydlesu i’r unigolyn hwn er lles gorau eich elusen
- manylion sy’n dangos sut mae’r gwrthdaro buddiannau wedi cael ei reoli
- adroddiad syrfëwr cymwysedig yn unol â’r rheoliadau
- disgrifiad o’r eiddo
- a yw’r eiddo yn cynnwys tir wedi’i ddynodi ar gyfer diben arbennig
- manylion am unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig