Canllawiau

Trefniadau diogelu ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr

Dysgwch am eich cyfrifoldebau i gadw pawb sy'n dod i gysylltiad â'ch elusen yn ddiogel rhag niwed: mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr, staff a buddiolwyr.

Applies to England and Wales

Trefniadau diogelu ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr

Mae gan bob elusen gyfrifoldeb i sicrhau nad ydynt yn achosi niwed i unrhyw un sy’n cysylltu â nhw. Mae gan elusennau sy’n gweithio â phlant neu oedolion sydd mewn perygl gyfrifoldebau ychwanegol.

Fel ymddiriedolwr, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Hyd yn oed os ydych chi’n dirprwyo rhai gweithgareddau i arweinydd neu grŵp diogelu, chi sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol. Byddwch yn gweld dolen i’n canllawiau manylach ar ddiwedd y crynodeb hwn.

Mae niwed a chamdrin yn cael effaith ddinistriol. Mae diwylliant diogelu cryf yn golygu:

  • eich bod yn amddiffyn pobl
  • eich bod yn lleihau’r risgiau o unrhyw niwed neu gamdrin
  • bod gan bawb ffydd y bydd eu pryderon yn cael eu trin yn briodol
  • bod pawb yn yr elusen yn deall eu rôl

Mae’n rhaid i bob ymddiriedolwr sicrhau bod ei elusen yn gwneud y 5 gweithred hyn:

Adnabod a rheoli risgiau

Mae’n rhaid i bob elusen adnabod unrhyw risgiau diogelu y mae’n rhaid iddi eu rheoli. Gallai’r rhain ddibynnu ar:

  • bwy y mae eich elusen yn gweithio â nhw
  • ble y mae’n gweithredu
  • yr hyn mae’n ei wneud

Gweithredu

Adnabod risgiau diogelu eich elusen. Defnyddiwch ein canllawiau manwl i’ch helpu i adnabod a mynd i’r afael â risgiau sy’n gysylltiedig â:

  • gweithio â phlant a phobl ifanc
  • gweithio ag oedolion sydd mewn perygl
  • gweithredu ar-lein
  • gweithio â chyrff eraill
  • gweithio dramor
  • atal camdrin terfysgol

Cael polisïau ac arferion addas ar waith

Mae’n rhaid i’ch elusen gael polisïau diogelu cryf y mae pawb yn eu deall a’u defnyddio.

Dylai’r rhain gynnwys sicrhau bod pawb yn gwybod sut i adnabod ac adrodd am bryder neu ddigwyddiad.

Gweithredu

Gwiriwch pryd y gwnaethoch adolygu eich polisïau ac arferion ddiwethaf. Os oes blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny, mae angen i chi eu hadolygu fel mater o flaenoriaeth.

Cynnal gwiriadau angenrheidiol

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff yn addas i weithredu yn eu rolau trwy gynnal gwiriadau perthnasol. Gallai’r rhain gynnwys gwirio bylchau yn hanes gwaith pobl, canolwyr a chynnal gwiriadau DBS.

Gweithredu

Ewch i’r DBS i gael gwybodaeth am lefelau’r gwiriadau sydd ar gael i sicrhau bod eich elusen yn cael yr holl wiriadau perthnasol.

Amddiffyn eich gwirfoddolwyr a’ch staff

Mae hyn yn cynnwys cael polisïau eglur ynghylch:

  • bwlio ac aflonyddu a
  • chwythu’r chwiban.

Mae’n rhaid i chi gael yswiriant addas mewn grym hefyd.

Gweithredu

Sicrhewch fod eich gwirfoddolwyr a’ch staff yn gwybod sut i godi unrhyw bryderon bwlio neu aflonyddu.

Ymdrin â digwyddiadau ac adrodd amdanynt yn briodol

Mae’n rhaid i chi ddilyn eich polisïau a gweithdrefnau bob tro wrth ymdrin â digwyddiadau neu honiadau cam-drin. Dylai hyn gynnwys:

  • trafod a chofnodi mewn ffordd ddiogel a chyfrifol
  • gweithredu’n gyflym, gan sicrhau eich bod yn atal neu’n lleihau unrhyw niwed neu ddifrod ychwanegol
  • adrodd i’r holl asiantaethau perthnasol

Gweithredu

Defnyddiwch Ymdrin â honiadau diogelu mewn elusen am gymorth.

Cymorth ychwanegol

Darllenwch ragor o ganllawiau diogelu manwl gan y Comisiwn Elusennau.

Os ydych chi’n adolygu eich trefniadaeth diogelu cyfredol, neu ond yn dechrau arni, gallwch hefyd ddefnyddio’r adnoddau canlynol am gymorth:

Adnodd diogelu NCVO neu ‘Llywodraethu da ar gyfer diogelu’ Bond.

Cyhoeddwyd ar 17 November 2021