Canllawiau

Gwneud cais am wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi'i dandalu ar gyfer rhywun sydd wedi marw

Canllawiau ar gyfer y perthynas agosaf neu'r ysgutor ar gyfer rhywun sydd wedi marw a allai fod wedi bod yn cael eu tandalu Pensiwn y Wladwriaeth.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi nodi y gallai rhai o’r bobl ganlynol fod wedi cael eu tandalu Pensiwn y Wladwriaeth:

  • pobl a oedd yn briod neu’n weddw pan wnaethant farw

  • pobl 80 oed neu drosodd pan wnaethant farw

Y rheswm am hyn yw na chawsant y cynnydd awtomatig yn eu pensiwn roedd ganddynt hawl iddo.

Rydym yn ysgrifennu at bobl y gwyddom y gallai hyn effeithio arnynt i roi gwybod iddynt sut y bydd hyn yn cael ei unioni. Rydym yn cysylltu â pherthynas agosaf ac ysgutorion lle rydym yn gwybod eu manylion.

Os ydych yn credu y gallai rhywun sydd wedi marw fod wedi cael eu tandalu Pensiwn y Wladwriaeth a chi yw eu perthynas agosaf neu ysgutor yr ystâd, dylech gysylltu â’r DWP i ofyn am wybodaeth.

Pwy allai fod wedi cael eu tandalu

Os oedd y person a fu farw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Darganfyddwch pryd y cyrhaeddodd rhywun oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oeddent yn briod

Efallai eu bod wedi cael eu tandalu os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

Os oeddent yn weddw

Efallai eu bod wedi cael eu tandalu os na wnaethant etifeddu rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth eu gŵr, gwraig neu bartner sifil .

Os oeddent yn 80 oed drosodd

Efallai eu bod wedi cael eu tandalu os oeddent yn cael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth ond wedi cael llai na swm y pensiwn dros 80 oed (a elwir hefyd yn Bensiwn y Wladwriaeth Categori D).

Os oedd y person a fu farw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Darganfyddwch pryd y cyrhaeddodd rhywun oedran Pensiwn y Wladwriaeth .

Os oeddent yn weddw

Efallai eu bod wedi cael eu tandalu os na wnaethant etifeddu unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth eu gŵr, gwraig neu bartner sifil roedd ganddynt hawl i’w gael.

Sut i ddarganfod os oedd rhywun wedi cael eu tandalu

Rydym yn ysgrifennu at bobl y gwyddom y gall hyn effeithio arnynt i roi gwybod iddynt sut y caiff hyn ei gywiro.

Ond ni fydd rhai pobl yn cael llythyr gennym. Y rheswm am hyn yw nad ydym yn cadw’r holl wybodaeth am bob person yr effeithir arnynt. Mae hyn yn cynnwys lle’r oedd y sawl sydd wedi marw yn un o’r canlynol:

  • dynes briod:

    • y hawliodd ei gŵr ei Bensiwn y Wladwriaeth cyn 17 Mawrth 2008

    • a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn ei gŵr

    • na wnaeth gais ar wahân am Bensiwn sylfaenol is y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Bensiwn y Wladwriaeth Categori BL)

  • rhywun sydd eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sydd:

    • wedi ysgaru neu fod eu partneriaeth sifil wedi’i diddymu

    • heb ddweud wrth DWP am hyn

  • aelod o gwpl lle:

    • roedd y ddau wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

    • nad oedd gŵr, gwraig neu bartner sifil y person sydd wedi marw wedi hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth eto

Os ydych yn credu y gallai rhywun sydd wedi marw fod wedi cael eu tandalu Pensiwn y Wladwriaeth a chi yw eu perthynas agosaf neu ysgutor yr ystâd, dylech gysylltu â’r DWP i ofyn am wybodaeth.

Sut i wneud cais am wybodaeth

Os ydych yn meddwl bod rhywun sydd wedi marw wedi eu tandalu Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r DWP.

Gwneud cais am wybodaeth

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol am y person sydd wedi marw:

  • eu henw llawn

  • eu dyddiad geni

  • eu dyddiad marwolaeth

  • eu cyfeiriad hysbys diwethaf, gan gynnwys eu côd post

  • enw llawn eu gŵr, gwraig neu bartner sifil, os oeddent yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Bydd yn ein helpu i ddelio â’r cais yn gyflymach os gallwch hefyd ddarparu eu rhif Yswiriant Gwladol.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn gwirio a gafodd y person sydd wedi marw y swm cywir o Bensiwn y Wladwriaeth. Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth, er enghraifft os nad ydym wedi cadw’r cofnodion, yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Os oedd arian yn ddyledus i’r sawl sydd wedi marw, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf.

Os nad oedd arian yn ddyledus i’r sawl sydd wedi marw, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych.

Byddwn yn delio â’ch ymholiad cyn gynted â phosibl, ond gall hyn gymryd peth amser.

Cyfraddau Pensiwn y Wladwriaeth

Pobl a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Dyddiad mae’r gyfradd yn berthnasol o Cyfradd Pensiwn newydd y Wladwriaeth
Ebrill 2022 £185.15
Ebrill 2021 £179.60
Ebrill 2020 £175.20
Ebrill 2019 £168.60
Ebrill 2018 £164.35
Ebrill 2017 £159.55
Ebrill 2016 £155.65

Pobl a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Dyddiad mae’r gyfradd yn berthnasol o Cyfradd Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn Cyfradd Pensiwn sylfaenol is y Wladwriaeth a Phensiwn y Wladwriaeth dros 80
Ebrill 2022 £141.85 £85.00
Ebrill 2021 £137.60 £82.45
Ebrill 2020 £134.25 £80.45
Ebrill 2019 £129.20 £77.45
Ebrill 2018 £125.95 £75.50
Ebrill 2017 £122.30 £73.30
Ebrill 2016 £119.30 £71.50
Ebrill 2015 £115.95 £69.50
Ebrill 2014 £113.10 £67.80
Ebrill 2013 £110.15 £66.00
Ebrill 2012 £107.45 £64.40
Ebrill 2011 £102.15 £61.20
Ebrill 2010 £97.65 £58.50
Ebrill 2009 £95.25 £57.05
Ebrill 2008 £90.70 £54.35
Ebrill 2007 £87.30 £52.30
Ebrill 2006 £84.25 £50.50
Ebrill 2005 £82.05 £49.15
Ebrill 2004 £79.60 £47.65
Ebrill 2003 £77.45 £46.35
Ebrill 2002 £75.50 £45.20
Ebrill 2001 £72.50 £43.40
Ebrill 2000 £67.50 £40.40
Ebrill 1999 £66.75 £39.95
Ebrill 1998 £64.70 £38.70
Ebrill 1997 £62.45 £37.35
Ebrill 1996 £61.15 £36.60
Ebrill 1995 £58.85 £35.25
Ebrill 1994 £57.60 £34.50
Ebrill 1993 £56.10 £33.70
Ebrill 1992 £54.15 £32.55
Ebrill 1991 £52.00 £31.25
Ebrill 1990 £46.90 £28.20
Ebrill 1989 £43.60 £26.20
Ebrill 1988 £41.15 £24.75
Ebrill 1987 £39.50 £23.75
Gorffennaf 1986 £38.70 £23.25
Tachwedd 1985 £38.30 £23.00
Tachwedd 1984 £35.80 £21.50
Tachwedd 1983 £34.05 £20.45
Tachwedd 1982 £32.85 £19.70
Tachwedd 1981 £29.60 £17.75
Tachwedd 1980 £27.15 £16.30
Tachwedd 1979 £23.30 £14.00
Tachwedd 1978 £19.50 £11.70
Tachwedd 1977 £17.50 £10.50
Tachwedd 1976 £15.30 £9.20
Tachwedd 1975 £13.30 £8.20
Ebrill 1975 £11.60 £6.90
Gorffennaf 1974 £10.00 £6.00
Hydref 1973 £7.75 £4.75
Hydref 1972 £6.75 £4.15
Medi 1971 £6.00 £3.70
Cyhoeddwyd ar 8 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 September 2022 + show all updates
  1. Changes made to the guidance to provide further clarity on the situations when people should contact the Department for Work and Pensions if they believe that that a person who has died may have been underpaid State Pension.

  2. Added translation