Canllawiau

Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU drwy’r post

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo neu dir yn y DU, os na allwch ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, nid oes angen i chi roi gwybod am eich enillion ar-lein os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, cyfrifwch a wnaethoch elw trethadwy neu golled. Rhowch wybod am bob gwerthiant a gwarediad o eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.

Pryd y mae’n rhaid i chi roi gwybod drwy’r post

Mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen drwy’r post os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth 

  • mae angen i chi ddiwygio ffurflen bapur sydd eisoes wedi’i hanfon atom

  • rydych yn ymddiriedolwr corfforaethol 

  • rydych yn gynrychiolydd personol sydd angen diwygio adroddiad a anfonwyd atom

  • ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i ddiwygio adroddiad a anfonwyd atom os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn benodai

  • mae gennych bŵer atwrnai

  • rydych yn gweithredu ar ran rhywun arall mewn gallu cyfreithiol tebyg

Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch wybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU, a’i thalu, gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein

Cyn i chi ddechrau

I roi gwybod gan ddefnyddio’r ffurflen hon, bydd angen i chi wneud y canlynol: 

  1. Cyfrifo’ch enillion a faint o dreth sydd arnoch.

  2. Gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn llenwi’r ffurflen.

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran ymddiriedolaeth, bydd angen ei Chyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) neu Gyfeirnod Unigryw (URN) arnoch. Os nad oes gan eich ymddiriedolaeth y naill neu’r llall o’r rhain, bydd angen i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth gyda ni cyn defnyddio’r ffurflen hon.

Rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

  1. Casglwch yr holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch y ffurflen ar-lein.

  3. Cadwch ac argraffwch y ffurflen wedi’i llenwi.

  4. Llofnodwch y datganiad — gofynnwch i’ch cleient ei lofnodi os ydych chi’n asiant.

  5. Dylech gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol sy’n cefnogi’ch Ffurflen Dreth.

  6. Postiwch ef atom, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen 

Byddwn yn anfon cyfeirnod talu 14 digid atoch sy’n dechrau gydag ‘x’.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych cyn y dyddiad dyledus.

Cais am ffurflen bapur

Mae angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am ffurflen bapur os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • nid ydych yn gallu defnyddio’r ffurflen ar-lein hon

  • mae angen rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Information about using a trust's Unique Taxpayer Reference (UTR) or Unique Reference Number (URN) when reporting a trust has been added.

  2. Added translation

  3. Information has been added about how to request a paper form for customers who cannot use the online form and customers reporting for the 2020 to 2021 tax year.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon