Dulliau o dalu

Bydd angen eich cyfeirnod talu Enillion Cyfalaf arnoch i wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Os gwnaethoch werthu eiddo yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020, gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod:

  • yn eich cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU, os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein
  • mewn llythyr a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF), os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur neu ar ran rhywun arall

Os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘amser real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf, gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod mewn llythyr neu e-bost a anfonwyd gan CThEF.

Os gwnaethoch roi gwybod am eich enillion cyfalaf mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd angen i chi dalu’ch treth fel rhan o’ch bil treth Hunanasesiad.  

Talu ar-lein

Os gwnaethoch roi gwybod am eich Enillion Cyfalaf drwy ddefnyddio’r gwasanaeth amser real

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF i dalu ar-lein â cherdyn debyd neu gredyd.

Bydd CThEF yn derbyn taliad â cherdyn ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Os gwnaethoch roi gwybod am eich enillion drwy ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU i dalu ar-lein.

Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch ddewis dyddiad talu drwy’ch cyfrif banc ar-lein, cyn belled â’i fod cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Trosglwyddiad banc

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr):

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau gan gyfrifon yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Taliadau gan gyfrifon y tu allan i’r DU

Defnyddiwch Rif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN) CThEF:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Siec

Gallwch anfon siec drwy’r post i CThEF.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Enillion Cyfalaf, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, ar gefn y siec.

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.