Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu

Neidio i gynnwys y canllaw

Os oes gennych enillion cyfalaf eraill i roi gwybod amdanynt

Os nad yw’ch ennill cyfalaf yn dod o eiddo preswyl yn y DU a werthwyd ar ôl 6 Ebrill 2020, gallwch roi gwybod am eich ennill yn y ffyrdd canlynol:

  • mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth ‘Amser Real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf

Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi gyfrifo a oes angen i chi dalu a faint sydd arnoch (yn agor tudalen Saesneg).

Mae ffordd wahanol i roi gwybod am Cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU.

Rhoi gwybod mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Gallwch roi gwybod am eich enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi werthu neu waredu ased.

Gallwch gael help gyda’ch Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg) gan gyfrifydd neu gan ymgynghorydd treth.

Ar ôl i chi gyflwyno Ffurflen Dreth, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch, sut i dalu a phryd i dalu.

Rhoi gwybod drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘amser real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i roi gwybod am enillion ar asedion a werthwyd gennych yn ystod blwyddyn dreth:

  • 2023 i 2024
  • 2024 i 2025

Mae’n rhaid i chi fod yn preswylio yn y DU i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Ni allwch ei ddefnyddio i roi gwybod ar ran rhywun arall, er enghraifft cleient, ymddiriedolaeth neu ystâd.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth i roi gwybod:

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn barod, bydd angen i chi gynnwys manylion y gwerthiant ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad hefyd.

Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu’ch cyfrif neu fewngofnodi iddo. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi.

Gwirio’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi roi gwybod am eich enillion.

Mae’n rhaid i chi atodi copi o’ch cyfrifiad pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich enillion.

Sut i dalu

Ar ôl i chi roi gwybod am eich enillion, bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch, gan roi cyfeirnod talu i chi sy’n ddechrau gydag ‘X’.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu pan fyddwch yn talu:

Mae’n rhaid i chi roi gwybod erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi wneud eich ennill, a thalu erbyn 31 Ionawr. Er enghraifft, os gwnaethoch ennill ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi roi gwybod amdano erbyn 31 Rhagfyr 2025 a thalu erbyn 31 Ionawr 2026.

Os oes angen i chi wneud newid

Bydd angen i chi gyflwyno adroddiad newydd gan ddefnyddio cyfeirnod eich adroddiad sy’n dechrau gydag ‘RTT’. Caiff y cyfeirnod hwn ei anfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi ddefnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf.