Canllawiau

Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig

Darganfod dosbarthiadau arolygwyr adeiladu, y cymwyseddau sydd eu hangen a sut i gofrestru fel arolygydd adeiladu yng Nghymru a Lloegr.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Rôl arolygydd adeiladu

Mae arolygwyr adeiladu cofrestredig yn cyflawni gweithgareddau rheoli adeiladu a reoleiddir, sef:

  • asesu cynlluniau
  • archwiliadau
  • rhoi cyngor i gyrff rheoli adeiladu sy’n cyflawni swyddogaethau a reoleiddir

Ar ôl Ebrill 2024, os ydych yn bwriadu cyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru neu Loegr, rhaid i chi fod wedi eich cofrestru fel arolygydd adeiladu. Ar ôl y dyddiad hwn, os nad ydych wedi cofrestru, mae’n drosedd gweithio fel arolygydd adeiladu.

Cyrff rheoli adeiladu

Mae arolygwyr adeiladu cofrestredig (RBIs) yn gweithio i gyrff rheoli adeiladu, naill ai fel gweithwyr neu gontractwyr. Mae cyrff rheoli adeiladu:

  • yn Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR)
  • yn awdurdodau lleol
  • yn gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu

Cyn i chi wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu

Bydd angen i chi benderfynu ar y canlynol:

Er mwyn eich helpu i benderfynu, dylech ddarllen fframwaith cymhwysedd arolygwyr adeiladu ar gyfer y wlad rydych yn gwneud cais i weithio ynddi:

Mae’r fframwaith cymhwysedd yn nodi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer eich cais cofrestru.

I wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 2, 3 neu 4, bydd angen i chi gwblhau asesiad cymhwysedd annibynnol neu gael eich cofrestru arno. Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru heb gael eich asesu, byddwch yn cael eich cofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 1 a dim ond dan oruchwyliaeth y gallwch weithio.

Mathau o adeiladau 

I wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu, bydd angen i chi benderfynu pa fathau o adeilad rydych yn gymwys i weithio arnynt.

  • adeiladau safonol ac ansafonol 
  • 8 categori adeiladu gwahanol

Adeiladau safonol    

Mae adeilad safonol wedi’i ddylunio a’i adeiladu o safonau a chodau cyffredin a gydnabyddir gan y diwydiant.

Adeiladau ansafonol   

Adeilad ansafonol yw adeilad sy’n cynnwys unrhyw beth y tu allan i dechnegau adeiladu cyffredin yng Nghymru neu Loegr. Nid ydynt yn dilyn egwyddorion dylunio a gydnabyddir gan y diwydiant a nodir mewn codau cyfarwyddyd adeiladu perthnasol, megis:  

Gall gwaith adeiladu ansafonol gynnwys:

  • amodau tir anodd   
  • adeiladau â meddiannaethau anarferol neu lefelau uchel o gymhlethdod, er enghraifft canolfannau siopa ble y ceir nifer uchel o siopwyr a gweithwyr, canolfannau cynadledda ac ysbytai     
  • adeiladau mawr neu uchel iawn ac adeiladau pren mawr     
  • rhai adeiladau sy’n cynnwys dulliau adeiladu modern

 Cyn i brosiect adeiladu ddechrau, dylai cyrff rheoli adeiladu nodi a yw adeilad yn ansafonol, oherwydd ei fod:     

  • yn fawr iawn     
  • yn uchel iawn     
  • yn adeilad pren mawr

Categorïau adeiladu

Yr 8 categori adeiladu y gallwch gofrestru i weithio arnynt yw: 

  • categori A, tai annedd preswyl (un aelwyd) o dan 7.5m
  • categori B, fflatiau preswyl a thai annedd o dan 11m
  • categori C, fflatiau preswyl a thai annedd, dros 11m ond o dan 18m
  • categori D, pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) o dan 7.5m
  • categori E, pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) dros 7.5m ond o dan 11m
  • categori F, pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) dros 11m ond o dan 18m
  • categori G, pob math o adeilad (gan gynnwys ansafonol), heb unrhyw derfyn uchder i’r lloriau, ond heb gynnwys adeiladau risg uwch (HRBs)
  • categori H, HRBs fel y’i diffinnir yn Neddf Adeiladu 1984 (fel y’i diwygiwyd)

Dosbarthiadau cofrestru 

I wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu, bydd angen i chi benderfynu pa ddosbarth cofrestru rydych yn gymwys i wneud cais ar ei gyfer. Mae 4 dosbarth o RBI.

Dosbarth 1 

Rhaid gweithio o dan oruchwyliaeth bob amser. Nid oes rhaid i chi gwblhau asesiad cymhwysedd i gofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 1. Mae’r dosbarth hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i’r proffesiwn sy’n cael hyfforddiant.

Dosbarth 2 

Yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth ar gategorïau adeiladu y maent wedi’u cofrestru i weithio arnynt, a allai gynnwys: 

  • categori A 
  • categori B 
  • categori C 
  • categori D  
  • categori E 
  • categori F

Nid yw Dosbarth 2 yn cynnwys adeiladau ansafonol na HRBs.

Dosbarth 3 

Yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth ar gategorïau adeiladu y maent wedi’u cofrestru i weithio arnynt, a all gynnwys adeiladau categori A i F a:

  • categori G 
  • categori H

Dosbarth 4 rheolwr technegol

Mae rheolwyr technegol yn arolygwyr adeiladu dosbarth 2 neu ddosbarth 3 gyda chyfrifoldebau ychwanegol am rôl rheoli technegol timau a phrosesau. 

Ni all arolygydd adeiladu dosbarth 2, sydd hefyd yn rheolwr technegol dosbarth 4, gyflawni unrhyw weithgareddau dosbarth 3 oni bai ei fod yn cael ei oruchwylio. 

Gall rhywun nad yw’n arolygydd adeiladu cofrestredig reoli tîm rheoli adeiladu yn weinyddol, ond nid ar faterion technegol.

Asesiad cymhwysedd

I wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 2, 3 neu 4, rhaid i chi gwblhau asesiad cymhwysedd gan gynllun cymeradwy.

Gallwch gael asesiad cymhwysedd drwy gysylltu ag un o ddarparwyr y cynlluniau cymeradwy:

Mae’r asesiad yn gwerthuso eich sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ymddygiad yn erbyn fframwaith cymhwysedd arolygydd adeiladu perthnasol:

Fel rhan o’r asesiad, bydd angen i chi gyflwyno portffolio o’ch gwaith a phasio arholiad neu gyfweliad. Mae’n rhaid i chi gael eich ailasesu o leiaf bob 4 blynedd.

Ar ôl i chi gwblhau eich asesiad, byddwch yn derbyn rhif tystysgrif. Bydd angen i chi ddarparu’r rhif pan fyddwch yn cofrestru fel prawf o’ch asesiad.

Ar ôl pasio eich asesiad cymhwysedd

Unwaith y byddwch wedi llwyddo i basio eich asesiad cymhwysedd a derbyn rhif eich tystysgrif, cysylltwch â BSR i uwchraddio eich cofrestriad. Ni chodir tâl am hyn.

Gwneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu

Gallwch wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu ar-lein.

Bydd cofrestriadau fel arfer yn ddilys am 4 blynedd, oni bai eu bod yn amrywiol, wedi’u hatal neu eu canslo gan BSR.  

Os gwnaethoch gofrestru cyn 6 Ebrill 2024, mae’r 4 blynedd yn dechrau o 6 Ebrill 2024.

Dyma’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch

I gwblhau’r cofrestriad, bydd angen i chi ddarparu:

  • eich enw, dyddiad geni a manylion cyswllt
  • eich rhif Yswiriant Gwladol i groeswirio gyda’ch asesiad cymhwysedd
  • y dosbarth arolygydd adeiladu rydych am gofrestru ar ei gyfer
  • y categorïau o adeiladau yr ydych yn gymwys i weithio arnynt
  • manylion eich asesiad cymhwysedd annibynnol, os ydych eisiau cofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 2, 3 neu 4
  • manylion aelodaeth cyrff proffesiynol perthnasol, os oes rhai ar gael
  • eich statws cyflogaeth

Cod ymddygiad

Fel rhan o’ch cais i gofrestru, bydd BSR yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn cydymffurfio â’r cod ymddygiad ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig yn y gwledydd rydych wedi’ch cofrestru ynddynt.

Darllenwch y canlynol:

Os ydych yn cofrestru ar gyfer Cymru a Lloegr bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddau god ymddygiad.

Gwybodaeth am daliadau

Bydd angen i chi ddarparu manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd i dalu’r ffi gofrestru o £336 - p’un a ydych yn cofrestru ar gyfer un wlad neu ar gyfer y ddwy.  

Yn ogystal â’r ffi gofrestru, o ben-blwydd cyntaf eich cofrestriad, bydd angen i chi dalu ffi cynhaliaeth blynyddol o £216.

Gallwch ddysgu mwy am:

Penderfynu ar y cais

Bydd BSR yn dweud wrthych a yw’r cais yn cael ei gymeradwyo, ei gymeradwyo o dan amodau, neu ei wrthod. 

Mewn achosion lle mae’r cais yn destun amodau neu’n cael ei wrthod, bydd BSR dweud wrthych pam.

Gallwch herio’r penderfyniad. Mae’r broses yn wahanol yn dibynnu a wnaethoch gais i gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu’r ddau.

I ofyn am adolygiad o benderfyniad cofrestru yn Lloegr, dylech gysylltu â BSR o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich penderfyniad. Bydd angen i chi ddweud wrthym: 

  • cyfeirnod eich cais  
  • y dyddiad y gwnaed y penderfyniad  
  • y rhesymau pam eich bod am i ni adolygu’r penderfyniad  
  • unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn berthnasol ond nad oedd ar gael ar adeg y penderfyniad gwreiddiol

Os caiff y penderfyniad ei gadarnhau ar ddiwedd adolygiad, gallwch apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf.

I apelio yn erbyn penderfyniad cofrestru yng Nghymru, gallwch gyflwyno apêl gyda’r Llysoedd Ynadon o fewn 21 diwrnod i dderbyn y penderfyniad. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn gyda chytundeb ysgrifenedig BSR.

Ar ôl i chi gofrestru

Ar ôl cofrestru, rhaid i chi gynnal a datblygu eich cymhwysedd fel arolygydd adeiladu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cydymffurfio â’r cod ymddygiad
  • parhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy gynnal portffolio cyfredol o waith
  • cwblhau asesiad cymhwysedd annibynnol o leiaf bob pedair blynedd
  • cael goruchwyliaeth briodol os ydych yn gwneud gwaith y tu allan i’ch dosbarth cofrestru neu gymhwysedd presennol

Camu Ymlaen

Os ydych am ehangu’r ystod o waith rydych wedi’i gofrestru i’w wneud, gallwch wneud hynny drwy:

  • ddatblygu eich cymhwysedd yn eich dosbarth o dan yr oruchwyliaeth briodol, i weithio ar draws mwy o gategorïau adeiladu
  • pasio asesiad cymhwysedd annibynnol i newid eich dosbarth cofrestru

Goruchwylio

Pan fyddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth, mae’n golygu bod RBI cymwys addas yn goruchwylio eich gwaith. Mae RBI cymwys addas yn rhywun o ddosbarth cofrestru perthnasol sy’n gallu gwneud y gwaith.

Gweithio dan oruchwyliaeth:  arolygydd adeiladu hyfforddeion dosbarth 1

Mae’r gwaith y gallech gael eich goruchwylio arno, fel arolygwr adeiladu dan hyfforddiant dosbarth 1, yn cynnwys:

  • gwirio cynlluniau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau adeiladu lle caiff y cynlluniau eu hailwirio gan RBI cymwys addas dosbarth 2, 3 neu 4
  • arolygu gwaith adeiladu ochr yn ochr â RBI cymwys addas dosbarth 2, 3 neu 4, bydd hyn yn cynnwys trafod canfyddiadau a goruchwylio’ch penderfyniadau
  • casglu gwybodaeth i ddangos i RBI cymwys addas dosbarth 2, 3 neu 4 ar gyfer penderfyniad ar gydymffurfio

Gweithio dan oruchwyliaeth: arolygydd adeiladu cofrestredig dosbarth 2

Mae’r gwaith y gallech gael eich goruchwylio arno, fel arolygydd adeiladu dosbarth 2, yn cynnwys:   

  • gwirio cynlluniau a manylebau ar gyfer cydymffurfio â RBI cymwys addas yn erbyn rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith dosbarth 2, nad ydych wedi cofrestru ar ei gyfer
  • gwirio cynlluniau a manylebau ar gyfer gwaith dosbarth 3 lle caiff y cynlluniau eu hailwirio gan RBI cymwys addas dosbarth 3
  • arolygu gwaith adeiladu ochr yn ochr â RBI cymwys addas dosbarth 2 neu 3, bydd hyn yn cynnwys trafod canfyddiadau a goruchwylio’ch penderfyniadau
  • casglu gwybodaeth i ddangos i RBI cymwys addas o ddosbarth 2 nad ydych yn gymwys ar ei gyfer, neu ddosbarth 3 ar gyfer penderfyniad ar gydymffurfiaeth

Dylai gweithio dan oruchwyliaeth fod yn rhan o’ch dysgu a’ch datblygiad proffesiynol.

Dylech gadw tystiolaeth o’ch gwaith, gan gynnwys gwaith a wneir dan oruchwyliaeth, yn eich portffolio.

Arolygu arolygwyr adeiladu cofrestredig

Os ydych yn goruchwylio gwaith arolygydd adeiladu arall, rydych yn gyfrifol am y gwaith a rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn gywir.

Gallwch ond oruchwylio gwaith rydych yn gymwys i’w wneud.

Gallwch ddarganfod mwy am eich cyfrifoldebau yn y cod ymddygiad perthnasol.

Dod o hyd i oruchwyliwr

Mae’n rhaid i’r corff rheoli adeiladu rydych yn gweithio iddo roi goruchwyliwr i chi.  Mae hyn yr un peth p’un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

Rhaid i’r corff rheoli adeiladu fod â phroses ar waith i sicrhau bod yr holl waith dan oruchwyliaeth yn cyrraedd y safon.   

Cofrestr gyhoeddus

Mae 2 gofrestr gyhoeddus o arolygwyr adeiladu, un ar gyfer Cymru ac un ar gyfer Lloegr.

Gallwch chwilio drwy’r:

Bydd eich manylion yn ymddangos ar un gofrestr neu ar y ddwy gofrestr yn dibynnu ar y gwledydd rydych wedi cofrestru i weithio ynddynt.

Mae’r cofrestrau’n caniatáu i bobl wirio pwy sy’n arolygydd adeiladu cofrestredig a’r gwaith y maent wedi’i gofrestru i’w wneud.

Mae’r cofrestrau yn dangos:

  • eich enw
  • os ydych wedi eich cyflogi gan gorff rheoli adeiladu, enw a chyfeiriad eich cyflogwr
  • os ydych yn hunangyflogedig, y cyfeiriad busnes a gyflwynwyd gennych yn eich cais
  • eich dosbarth cofrestru
  • pa gategorïau o adeiladau rydych wedi cofrestru i weithio arnynt
  • dyddiad dechrau a gorffen eich cofrestriad
  • manylion unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’ch cofrestriad, megis cyfyngiadau ar y math o waith y gallwch ei wneud

Tynnu oddi ar y gofrestr

Gellir tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr:

  • os ydych yn gofyn am gael eich tynnu i ffwrdd oherwydd nad ydych am weithio fel arolygydd adeiladu mwyach
  • os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad cyn iddo ddod i ben
  • os ydych yn tramgwyddo o ran eich cyfrifoldebau a’ch cofrestriad yn cael ei atal neu ei ganslo

Os caiff eich manylion eu tynnu oddi ar y gofrestr, bydd y BSR yn parhau i gadw eich manylion yn unol â’n polisi cadw data.

I ofyn am gael eich tynnu oddi ar y gofrestr, ffoniwch y BSR ar 0300 790 6787.

Gwneud newidiadau i’ch cofrestriad

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r BSR o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau sy’n berthnasol i’ch cofrestriad, fel:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt
  • eich manylion cyswllt
  • eich cyflogwr a manylion eich cyflogwr
  • os ydych am newid eich dosbarth cofrestru neu gategorïau o waith
  • unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol
  • os ydych yn cael eich cosbi gan gorff proffesiynol
  • os ydych yn cael eich datgan yn fethdalwr, neu’n destun camau eraill fel y nodir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig
  • os nad ydych am fod ar y gofrestr mwyach

Os ydych yn newid dosbarth, rhowch wybod i BSR unwaith y bydd gennych eich tystysgrif asesu cymhwysedd ac nid cyn hynny, neu bydd yn cael ei wrthod.

Gallwch ddarllen mwy am y rheolau cofrestru ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig yn Lloegr yn atodiad 3 y cod ymddygiad.

I newid eich manylion, ffoniwch BSR ar 0300 790 6787.

O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 5pm, (ac eithrio dydd Mercher pan fyddwn ar agor rhwng 10am a 5pm, a gwyliau cyhoeddus pan fyddwn ar gau). Bydd taliadau galwadau arferol yn gymwys.

Bydd BSR yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost ac yn anfon ffurflen a dolen ShareFile atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i lanlwytho eich newidiadau.

Nid oes angen i chi ailgofrestru ar ôl gwneud newid oni bai bod eich cofrestriad ar fin dod i ben.

Gwrthdaro buddiannau

Rhaid i chi beidio â gwneud gwaith, na pharhau i wneud gwaith, lle nodir achosion o wrthdaro buddiannau. 

Gall gwrthdaro buddiannau gynnwys yr elfennau canlynol: 

  • elfen wleidyddol, fel cyflawni swydd cynghorydd yn yr ardal y cewch eich dyrannu i gwblhau prosiect adeiladu 
  • elfen ariannol, fel perchnogaeth mewn cwmni y cewch eich galw i’w archwilio 
  • elfen sy’n ymwneud â pherthnasoedd, fel cwblhau neu gyfrannu at waith rheoli adeiladu gyda ffrind neu berthynas 
  • elfen bersonol, fel peidio â bod eisiau math penodol o adeilad ger eich cartref 

Mae’n rhaid i chi gymryd camau i nodi achosion posibl a gwirioneddol o wrthdaro buddiannau posibl, cyn i chi ddechrau gweithio, ac yn ystod gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith. Os byddwch yn nodi achos o wrthdaro buddiannau, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar unwaith.

Camymddwyn proffesiynol a chwynion

Os byddwch yn euog o gamymddwyn proffesiynol, gallech wynebu sancsiynau.  Gellir defnyddio torri’r cod ymddygiad fel tystiolaeth o gamymddwyn proffesiynol.

Rydych yn cyflawni trosedd a gallech gael eich erlyn os ydych:

  • yn gwneud gwaith nad ydych wedi cofrestru i’w wneud heb oruchwyliaeth
  • yn gweithio fel arolygydd adeiladu ar ôl mis Ebrill 2024 heb gofrestru

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Ebrill 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Changed links in bullet points under 'Non-standard buildings'.

  3. The competency assessment extension period has ended, information about it has been removed from the page.

  4. Changes made to the definitions of building categories and addition of class 2 RBI exclusions

  5. Update made to competency assessment extension period information

  6. Guidance on conflicts of interest added.

  7. Guidance on building types, such as standard and non-standard buildings added.

  8. Guidance on building types, such as standard and non-standard buildings added.

  9. Competency assessment extension period guidance added. From 6 April to 6 July 2024 experienced building inspectors in England can complete their competency assessment and upgrade their registration. Guidance on extension period eligibility has also been added.

  10. Guidance additions for registering as a building inspector for Wales. This includes links to the code of conduct, competency framework, charging scheme and reviews for Wales. Annual maintenance charge has also been added to the guidance.

  11. First published.

Argraffu'r dudalen hon