Cofrestru fel arolygydd adeiladu
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i ddod yn arolygydd cofrestredig adeiladu yng Nghymru a Lloegr gyda'r BSR, a thalu eich tâl cynnal a chadw blynyddol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae arolygwyr cofrestredig adeiladu yn cynnal gweithgareddau rheolaeth adeiladu a reoleiddir, sef:
- asesu cynlluniau
- archwiliadau
- rhoi cyngor i gyrff rheolaeth adeiladu sy’n cyflawni swyddogaethau a reoleiddir
Os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw un o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru neu Lloegr, rhaid eich bod wedi cofrestru’n arolygydd adeiladu. Mae gweithio fel arolygydd adeiladu heb fod wedi’ch cofrestru gyda’r BSR yn drosedd.
Cofrestrau ar gyfer Cymru a Lloegr
Mae yna gofrestrau o arolygwyr adeiladu ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddwch ar y cofrestrau ar gyfer y gwledydd rydych chi’n dweud wrthym eich bod yn gweithio ynddynt. Bydd y cofrestrau’n cynnwys eich enw, eich cyflogwr, a manylion am weithgareddau a reoleiddir gan BSR rydych chi wedi cofrestru i’w gwneud. Bydd BSR yn dweud wrthych yn y cais pa fanylion fydd yn cael eu cyhoeddi.
Gallwch chwilio drwy’r:
Bydd eich cofrestriad yn ddilys am 4 blynedd, oni bai ei fod yn amrywiol, wedi’i atal neu ei ganslo gan BSR. Os gwnaethoch gofrestru cyn 6 Ebrill 2024, dechreuodd y 4 blynedd o 6 Ebrill 2024.
Beth fydd ei angen arnoch i gofrestru
I gofrestru, bydd BSR yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am y canlynol:
- chi eich hun, fel enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
- dosbarth arolygydd adeiladu rydych yn gwneud cais i gofrestru ar ei gyfer
- manylion eich asesiad cymhwysedd a gymeradwywyd gan BSR
- aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol
- eich statws cyflogaeth
Bydd BSR yn gofyn i chi gadarnhau y byddwch yn cydymffurfio â’r cod ymddygiad ar gyfer y gwledydd rydych wedi cofrestru ar eu cyfer.
Bydd y BSR yn codi tâl o £336 am bob cofrestriad, pa un ai ydych yn cofrestru ar gyfer un wlad neu’r ddwy wlad.
Talu eich tâl cynnal a chadw blynyddol
Bydd y BSR yn codi £216 o dâl cynnal a chadw arnoch bob blwyddyn.
Mae hyn yn daladwy o ben-blwydd cyntaf eich cofrestriad.
Bydd angen eich rhif cofrestru arnoch i dalu. Os ydych yn talu ar gyfer rhywun arall, bydd angen rhif cofrestru’r person hwnnw arnoch.
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch y canllawiau ar arolygwyr adeiladu cofrestredig, mae’n dweud wrthych:
- sut i benderfynu pa ddosbarth y byddwch yn cofrestru ar ei gyfer
- defnyddio cynllun wedi’i awdurdodi gan BSR i ardystio eich cymhwysedd, oni bai eich bod yn cofrestru fel arolygydd adeiladu dosbarth 1
- cofrestru fel arolygydd adeiladu
Darllenwch y canlynol:
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Cysylltu â’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais.
Updates to this page
-
Links changed to go to Welsh translation.
-
Updated information on paying the maintenance charge.
-
Welsh translation added.
-
The competency assessment extension period has ended, information about it has been removed from the page.
-
Update made to competency assessment extension period information
-
Competency assessment extension period added. From 6 April to 6 July 2024 experienced building inspectors in England can complete their competency assessment and upgrade their registration. Information on extension period eligibility has also been added.
-
Information added for registering as a building inspector for Wales. Additional information around requesting a review of a registration decision for both England and Wales.
-
First published.