Cael hyd i arolygydd cofrestredig adeiladu yng Nghymru
Cael hyd i arolygydd adeiladu sydd wedi’i restru ar gofrestr arolygwyr adeiladu Cymru.
Yn berthnasol i Gymru
Rhaid i bob arolygydd adeiladu sy’n gwneud gwaith rheolaeth adeiladu yng Nghymru gofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (BSR).
Mae’r gofrestr yn dangos:
- enw’r arolygydd adeiladu
- rhif cofrestru
- enw a chyfeiriad y cyflogwr neu’r busnes
- dosbarth cofrestru
- categorïau o adeiladau y mae’r arolygydd wedi’i gofrestru i weithio arnyn nhw
- dyddiad dechrau a gorffen y cofrestriad
- manylion amodau cofrestru
Chwilio’r gofrestr
Gallwch chwilio gan ddefnyddio enw’r arolygydd adeiladu, y corff rheolaeth adeiladu sy’n ei gyflogi neu gyfuniad o’r ddau.
Cyfnod estyn yr asesiad cymwyseddau
Daeth cyfnod estyn yr asesiad cymwyseddau yng Nghymru i ben ar 1 Hydref 2024. Mae hynny’n golygu na chaiff RBIs profiadol sydd wedi’u cofrestru fel dosbarth 1 gynnal gweithgareddau rheoledig mwyach heb oruchwyliaeth.
Sut i gofrestru fel arolygydd adeiladu
Os ydych am gynnal gweithgareddau sydd wedi’u rheoleiddio gan y BSR, fel asesu planiau ac arolygu, rhaid ichi gofrestru fel arolygydd adeiladu ar-lein.
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gofrestr
Cysylltwch â’r BSR os oes angen help arnoch gyda’r gofrestr arolygwyr adeiladu.