Canllawiau

Cofrestru ymddiriedolaeth fel asiant

Cofrestru ymddiriedolaeth eich cleient ar-lein os ydych yn asiant treth neu'n gynghorydd.

Pwy ddylai gofrestru

Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth gyda CThEF:

  • er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymddiriedolaeth yn cydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian
  • os oes angen i’r ymddiriedolwyr gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) — er enghraifft, er mwyn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr ymddiriedolaeth, hyd yn oed os yw’r ymddiriedolaeth ar y rhestr o eithriadau

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’r ymddiriedolaeth yn agored i un o’r trethi canlynol, neu’n dod yn agored iddynt:

  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Dir y Tollau Stamp
  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
  • Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban)
  • Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru)

Mae’n rhaid i’r mathau canlynol o ymddiriedolaethau gofrestru hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw rwymedigaeth treth:

  • yr holl ymddiriedolaethau datganedig yn y DU — oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol (er enghraifft, ymddiriedolaeth Atodlen 3A)
  • ymddiriedolaethau datganedig y tu allan i’r DU, megis ymddiriedolaethau sydd:
    • yn caffael tir neu eiddo yn y DU
    • ag o leiaf un ymddiriedolwr yn breswyl yn y DU ac sy’n ymrwymo i ‘berthynas fusnes’ yn y DU

Os nad yw’r ymddiriedolaeth yn breswyl yn y DU (ymddiriedolaethau nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg)), mae’n rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth os yw’n dod yn agored i dreth ar incwm sy’n dod o’r DU neu ar asedion yn y DU.

Os oes gan yr ymddiriedolaeth rwymedigaeth treth ond bod hyn wedi’i chwmpasu gan ryddhad, bydd angen i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth os oes angen i’ch cleient hawlio’r rhyddhad drwy Hunanasesiad.

Gwiriwch a yw’ch ymddiriedolaeth yn Ymddiriedolaeth Atodlen 3A

Does dim angen i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’n ymddiriedolaeth Atodlen 3A, oni bai bod ganddi rwymedigaeth i drethi yn y DU. Cyfeirir at ymddiriedolaethau Atodlen 3A hefyd fel ‘Ymddiriedolaethau Datganedig Eithriedig’.

Mae’ch ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth Atodlen 3A os yw’n unrhyw un o’r canlynol:

  • ymddiriedolaeth statudol yn unol â gorchymyn llys neu’r gyfraith — er enghraifft, ymddiriedolaeth a grëwyd gan lys pan nad yw cwpl yn gallu cytuno ar sut i rannu asedion yn ystod ysgariad
  • ymddiriedolaeth sy’n cael ei defnyddio i ddal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU — megis cynllun pensiwn galwedigaethol
  • ymddiriedolaeth sy’n dal polisïau yswiriant bywyd sydd ond yn talu os oes marwolaeth, salwch neu anabledd
  • ymddiriedolaeth ar gyfer elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU (neu’n elusen nad oes gofyn iddi gofrestru â’r Comisiwn Elusennau o dan Ddeddf Elusennau 2011)
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd i agor cyfrif banc ar gyfer plentyn
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd ar adeg farwolaeth sy’n mynd ag asedion o’r ystâd ac sy’n cael ei chau cyn pen dwy flynedd i’r farwolaeth (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth drwy ewyllys’)
  • ymddiriedolaeth sy’n dal llai na £100, a oedd wedi’i sefydlu cyn 6 Hydref 2020 (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth beilot’)
  • ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl fel ‘tenantiaid cydradd’
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd ariannol — gan gynnwys y rheiny a grëwyd drwy drefniadau rhagosodedig system ddynodedig neu reolau rhagosodedig corff cydnabyddedig
  • ymddiriedolaethau sy’n cael eu creu i ddal arian ar gyfer pobl ar wahân i’r ymddiriedolwr — neu’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau proffesiynol
  • ymddiriedolaeth sy’n dal arian, gwarantau ac asedion eraill ar ran cleient — mae’n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â’r gwaith o gynnal y busnes gan berson perthnasol a oruchwylir
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd cyfalaf ac eitemau tebyg
  • ymddiriedolaeth a grëwyd i alluogi trafodion masnachol
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â chofrestru asedion — er enghraifft, ymddiriedolaethau a grëwyd i ddal teitl cyfreithiol ased ar gyfer y person y mae’r trosglwyddiad neu’r gwarediad yn cael ei wneud drosto
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â gofynion deddfwriaethol — er enghraifft, ymddiriedolaethau a sefydlwyd i ddal eiddo, arian o iawndal ar gyfer anaf personol neu a gafodd ei sefydlu ar gyfer buddiolwr sy’n agored i niwed fel person anabl
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan y llywodraeth neu awdurdod cyhoeddus arall yn y DU

Mae mathau eraill, llai cyffredin, o ymddiriedolaethau datganedig sydd wedi’u sefydlu at ddibenion penodol hefyd yn cael eu heithrio rhag cofrestru, oni bai bod yn rhaid iddynt gael eu cofrestru oherwydd eu bod yn agored i dalu treth.

Gwiriwch gyda chyfreithiwr, cyfrifydd, ymgynghorydd ariannol neu ymgynghorydd proffesiynol arall os nad ydych yn siŵr a yw cynnyrch neu drefniant:

  • yn ymddiriedolaeth
  • yn un sydd angen ei gofrestru

Rhagor o wybodaeth am ymddiriedolaethau sydd ond yn gorfod cofrestru oherwydd rhwymedigaeth i dreth y Du (yn Saesneg) yn Llawlyfr CThEF.

Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy

Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy a grëwyd ar neu cyn 6 Hydref 2020

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau oedd 1 Medi 2022 neu cyn hynny.

Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy a grëwyd ar ôl 6 Hydref 2020

Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl iddi gael ei chreu neu ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).

Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau sydd ond wedi’u cofrestru oherwydd eu bod yn drethadwy

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn dibynnu ar y canlynol:

  • pan grëwyd yr ymddiriedolaeth
  • y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn agored iddi
  • a yw’r ymddiriedolaeth wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen

Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau trethadwy sy’n cael eu creu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2021

Cofrestrwch eich ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl i’r ymddiriedolaeth ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).

Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau trethadwy a grëwyd cyn 6 Ebrill 2021

Ymddiriedolaethau sy’n agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf am y tro cyntaf

Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth ar neu cyn 5 Hydref yn y flwyddyn dreth ar ôl yr un pan fo’r ymddiriedolaeth:

  • yn dechrau cael unrhyw incwm, neu
  • pan fo ganddi enillion cyfalaf a’i bod yn dod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf

Er enghraifft, os cafodd yr ymddiriedolaeth rywfaint o log am y tro cyntaf ym mis Mai 2019 (blwyddyn dreth 2019 i 2020) ac fe ddaeth yn agored i Dreth Incwm arno, dylech fod wedi cofrestru’r ymddiriedolaeth ar neu cyn 5 Hydref 2020 (ym mlwyddyn dreth 2020 i 2021).

Ymddiriedolaethau sydd wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen

Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth erbyn 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth:

  • ar ôl yr un pan fo’r ymddiriedolaeth yn cael unrhyw incwm, neu
  • pan fo ganddi enillion cyfalaf ac mae’n agored i dreth

Ymddiriedolaethau sy’n agored i drethi eraill

Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth ar neu cyn 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth ar ôl yr un pan fo gan yr ymddiriedolaeth unrhyw rwymedigaeth treth arall, megis Treth Etifeddiant.

Os yw’r ymddiriedolaeth yn agored i fwy nag un math o dreth ac mae’n bosibl y gallai’r ddau ddyddiad cau fod yn berthnasol, mae’n rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth cyn pa bynnag dyddiad o’r 2 ddyddiad cau sydd gynharaf.

Os nad ydych yn cofrestru

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwr dalu cosb o £5,000 (yn Saesneg) os ydych chi neu nhw:

  • yn methu i gofrestru’r ymddiriedolaeth
  • ddim yn diweddaru’r gofrestr

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae angen yr wybodaeth ganlynol ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy ac ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy, ond ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy dylech wirio pa wybodaeth ychwanegol y gallai fod angen i chi ei darparu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r ymddiriedolaeth
  • y dyddiad y cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu
  • rhoi gwybod a yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ddatganedig neu beidio
  • manylion ynghylch a oes gan ymddiriedolaeth nad yw yn y DU berthynas fusnes yn y DU
  • manylion ynghylch unrhyw dir neu eiddo yn y DU y mae’r ymddiriedolaeth wedi’u prynu

Dylech allu dod o hyd i’r manylion hyn yn y weithred ymddiriedolaeth ac ar unrhyw ohebiaeth y mae’r ymddiriedolaeth wedi’i chael gan CThEF.

Prif ymddiriedolwyr

Mae pob ymddiriedolwr yr un mor gyfrifol â’i gilydd, yn gyfreithiol, am yr ymddiriedolaeth, ond mae’n rhaid i chi enwebu un ‘prif’ ymddiriedolwr i fod yn brif pwynt cyswllt gyda CThEF.

Bydd y prif ymddiriedolwr yn cael y canlynol:

  • ar ôl yr un pan fo’r ymddiri
  • pan fo ganddi enillion cyfalaf ac mae’n agored i dreth

Bydd angen i chi sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn cael eu diweddaru.

Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • eich enw
  • eich dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad (os ydyw’n ddinesydd y DU)
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)
  • rhif ffôn
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd

Os yw’r prif ymddiriedolwr yn sefydliad, bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • enw’r sefydliad
  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer y sefydliad
  • ei gyfeiriad
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost
  • gwlad breswyl

Setlwyr

Mae setlwr yn unigolyn sydd wedi rhoi asedion i mewn i ymddiriedolaeth.

Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol amdano:

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • ddyddiad marwolaeth
  • gwlad breswyl hysbys ddiwethaf
  • gwlad cenedligrwydd ddiwethaf

Os cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu gan setlwr byw, byddwn yn gofyn i chi dweud wrthym os oes gan y setlwr alluedd meddyliol wrth iddo gofrestru ymddiriedolaeth.

Unigolion a sefydliadau eraill

Ar gyfer pob unigolyn arall sy’n ymwneud â’r ymddiriedolaeth, gan gynnwys rhagor o ymddiriedolwyr, setlwyr byw, amddiffynyddion a buddiolwyr, dylech roi’r canlynol:

  • eich enw
  • eich dyddiad geni
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd
  • galluedd meddyliol ar yr adeg gofrestru — bydd CThEF yn cymryd bod gan yr unigolyn alluedd meddyliol, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni fel arall

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am beth mae galluedd meddyliol yn ei olygu mewn perthynas ag ymddiriedolaethau (yn Saesneg) yn Llawlyfr CThEF.

Ar gyfer pob sefydliad arall sy’n ymwneud â’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • enw’r sefydliad
  • cyfeiriad
  • gwlad breswyl

Buddiolwyr

Dylech roi manylion pob buddiolwr hysbys a all elwa o’r ymddiriedolaeth. Os oes gennych fwy na 25 o fuddiolwyr mewn unrhyw un math o fuddiolwr, cadwch nodyn o’r buddiolwyr ychwanegol ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Buddiolwyr a enwir

Mae’n rhaid i chi roi manylion yr holl unigolion, ymddiriedolaethau, elusennau a sefydliadau a enwir fel buddiolwyr yn y weithred.

Dim ond pan fydd digwyddiad penodol yn digwydd y bydd rhai buddiolwyr a enwir yn elwa, megis pan fydd buddiolwr arall yn marw. Gallwch gynnwys y rhain mewn dosbarth o fuddiolwyr nes bod y digwyddiad yn digwydd. Bryd hynny, dylech roi eu manylion ar y gofrestr fel buddiolwyr a enwir.

Dosbarthiadau o fuddiolwyr

Gallwch ddefnyddio ‘dosbarth’ o fuddiolwyr i ddisgrifio grŵp o unigolion nad ydynt yn hysbys eto, nac wedi’u henwi’n unigol yn y weithred ymddiriedolaeth, er enghraifft, wyrion yn y dyfodol. Gall hyn hefyd gynnwys buddiolwyr posibl a enwir.

Pan fydd aelod o ddosbarth o fuddiolwyr yn elwa o’r ymddiriedolaeth, ac o ganlyniad yn dod yn hysbys, mae’n rhaid i chi roi ei fanylion. Gofynnir i chi roi disgrifiad o bob dosbarth.

Buddiolwyr ymddiriedolaethau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth

Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gofnodi buddiolwyr sy’n rhan o sefydliad, er enghraifft, cyflogeion cwmni.

Bydd angen i chi hefyd roi nifer fras y buddiolwyr yn y grŵp.

Perchnogaeth neu gyfran reolaethol mewn cwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Dyma pan fo gan ymddiriedolaeth berchnogaeth, neu gyfran reolaethol, o gwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r cwmni
  • cyfeiriad y cwmni
  • y wlad y mae ei chyfreithiau’n llywodraethu’r cwmni
  • y dyddiad pan gafodd yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol

Yr wybodaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y math o ymddiriedolaeth
  • manylion ynghylch sut y cafodd ei sefydlu
  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer yr ymddiriedolaeth, os oes ganddi un
  • er mwyn rhoi gwybod a yw’r ymddiriedolaeth wedi’i rhestru fel ymddiriedolaeth Atodlen 3A — yr unig reswm y caiff ymddiriedolaeth yn y sefyllfa hon ei chofrestru yw os oes angen iddi gael cyfeirnod unigryw y trethdalwr i ddatgan rhwymedigaeth treth

Setlwyr sydd wedi marw

Os ydynt ar gael, bydd angen y manylion canlynol arnoch o ran y setlwr:

  • ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
  • ei gyfeiriad
  • ei fanylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)

Unigolion a sefydliadau eraill

Mae’n rhaid i chi hefyd roi un o’r canlynol:

  • ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
  • ei gyfeiriad
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad yw’n ddinesydd y DU)

Cyfranddaliadau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r cwmni y mae’r cyfranddaliadau ynddo
  • nifer y cyfranddaliadau
  • dosbarth a math o gyfranddaliadau
  • amcangyfrif o werth y cyfranddaliadau pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth

Partneriaeth

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol am y bartneriaeth arnoch:

  • disgrifiad
  • dyddiad dechrau

Busnes

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r busnes
  • disgrifiad o’r busnes
  • cyfeiriad y busnes
  • amcangyfrif o werth y busnes pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth

Eiddo a thir

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad, enw neu ddisgrifiad o’r eiddo neu’r tir
  • amcangyfrif o werth llawn yr eiddo neu’r tir ar adeg cofrestru’r ymddiriedolaeth
  • amcangyfrif o werth y gyfran o dir neu eiddo a ddelir gan ymddiriedolaeth os nad yw’n berchen ar y cyfan

Arian

Bydd angen cyfanswm yr arian yn yr ymddiriedolaeth arnoch.

Asedion eraill (megis ceir, gemwaith neu gelf)

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • disgrifiad o’r ased
  • gwerth yr ased pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth

Sut i gofrestru

  1. Cofrestru fel asiant gyda CThEF yn gyntaf.

  2. Creu cyfrif gwasanaethau asiant.

  3. Eich bod yn defnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Rhoi gwybod y gallai perchnogion llesiannol fod mewn perygl anghymesur o niwed

Gall CThEF rannu gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau â thrydydd parti o dan amgylchiadau cyfyngedig. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu dim ond os yw un o’r canlynol yn wir:

  • bod unigolion yn gallu dangos eu bod yn ymchwilio i achos penodol o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth mewn perthynas ag ymddiriedolaeth benodol
  • mae gan ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmnïau alltraeth

Mae’r wybodaeth yn cynnwys manylion canlynol y perchennog llesiannol:

  • enw llawn
  • mis a blwyddyn geni
  • cenedligrwydd
  • gwlad breswyl
  • buddiant llesiannol yn yr ymddiriedolaeth

Ni fydd CThEF yn rhannu gwybodaeth am unigolion penodol, os byddai hynny’n arwain at risg anghymesur o’r canlynol:

  • twyll
  • herwgipiad
  • blacmel
  • cribddeiliaeth
  • aflonyddu
  • trais
  • bygythiad

Os byddwch yn dod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod un neu fwy o berchnogion llesiannol yr ymddiriedolaeth yn agored i risg anghymesur o niwed petai eu gwybodaeth yn cael ei rhyddhau, rhowch wybod i CThEF ar bapur.

Anfonwch e-bost â’r llinell pwnc ‘Perchennog llesiannol mewn perygl o niwed/Beneficial owners at risk of harm’, i: trs.riskofharm@hmrc.gov.uk. Dylech gynnwys:

  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr, neu’r cyfeirnod unigryw, ar gyfer yr ymddiriedolaeth
  • enw’r ymddiriedolaeth
  • enw’r prif ymddiriedolwr
  • y perchnogion llesiannol sy’n agored i risg o niwed
  • risg benodol o niwed
  • yr holl resymau pam fod y perchennog buddiol mewn perygl o’r niwed penodedig
  • yr holl resymau dros gredu y byddai datgelu ei wybodaeth ymddiriedolaeth yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed
  • hyd yr amser rydych yn credu y bydd y risg hon yn parhau

Y perchennog sy’n gyfrifol am dderbyn y risg o anfon yr e-bost hwn, ac ni fydd CThEF yn atebol os yw’r wybodaeth honno’n cael ei rhyngipio. Bydd y mewnflwch hwn dim ond yn derbyn gwybodaeth sy’n adrodd am risg o niwed.

Sut y bydd CThEF yn ymateb i adroddiadau ynghylch risg anghymesur o niwed

Nid yw adrodd am risg o niwed yn gwarantu y bydd yr eithriad yn cael ei roi ar waith. Dim ond os byddai rhyddhau gwybodaeth am ymddiriedolaeth y perchennog llesiannol yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed – a hynny ar yr adeg pan fo cais am ddata ymddiriedolaeth wedi dod i law ac yn derbyn sylw – y mae’r eithriad yn berthnasol.

Pan ddaw hysbysiad risg o niwed i law, bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth a roddwyd ac yn ymateb i’r ymddiriedolwyr yn ysgrifenedig. Bydd yr ymateb yn nodi p’un a fydd CThEF yn rhoi’r hysbysiad o risg i niwed ar waith neu beidio. Os bydd yn cael ei roi ar waith, bydd CThEF yn eithrio’r wybodaeth o’r rhyddhad os bydd cais data ymddiriedolaeth yn dod i law ar gyfer yr ymddiriedolaeth honno. Bydd y sicrwydd hwn yn berthnasol am 12 mis o’r dyddiad y daw’r hysbysiad i law.

Dylech anfon ceisiadau pellach am eithriad o ran y risg i niwed yn flynyddol os ydych yn credu bod y risg o niwed yn parhau i fod yn berthnasol. Dylech anfon eich cais rhwng 11 a 12 mis o’r dyddiad y gwnaethoch anfon eich cais blaenorol.

Ar ôl i chi gofrestru

Nid yw cofrestru ymddiriedolaeth eich cleient yn rhoi awdurdod i chi weithredu ar ran eich cleient.

Os ydych yn cofrestru ymddiriedolaeth sy’n agored i dreth, bydd CThEF yn anfon cyfeirnod unigryw y trethdalwr at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen cyfeirnod unigryw y trethdalwr arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Os nad yw’r ymddiriedolaeth yn agored i dalu treth, bydd CThEF yn anfon cyfeirnod unigryw at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i fanylion cofrestru

Cyn i chi allu bwrw golwg dros neu newid manylion yr ymddiriedolaeth y gwnaethoch eu rhoi wrth gofrestru, mae’n rhaid i chi gael awdurdodiad gan eich cleient.

Mae’r awdurdodiad hwn ar gyfer diweddaru manylion cofrestru’r ymddiriedolaeth yn unig. Nid yw’n disodli’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i roi gwybod i CThEF os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth am yr ymddiriedolaeth a roddwyd gennych wrth ei chofrestru’n newid. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i setlwyr, ymddiriedolwyr neu fuddiolwyr.

Dechrau perthnasau busnes newydd

Os yw ymddiriedolaeth eich cleient am ddechrau perthynas busnes newydd gyda sefydliad rydym yn ei ddiffinio fel person perthnasol, bydd rhaid i’ch cleient roi copi diweddar o’i ddogfen tystiolaeth o gofrestru i’r sefydliad.

Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r ddogfen yn y gwasanaeth ar-lein drwy ddewis ‘Cael tystiolaeth o gofrestriad yr ymddiriedolaeth’.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth yw person perthnasol, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu dogfen tystiolaeth o gofrestru iddo, yn yr arweiniad ar roi gwybod i CThEF am anghysondeb o ran ymddiriedolaeth.

Rhannu gwybodaeth am ymddiriedolaeth eich cleient

Efallai y byddwn yn rhannu manylion am ymddiriedolaeth eich cleient os bydd rhywun yn cyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i ni a’i fod yn bodloni gofynion y Rheoliadau Gwyngalchu Arian.

Dysgwch sut i ofyn i CThEF am wybodaeth am ymddiriedolaeth i gael gwybod:

  • gyda phwy y byddwn yn rhannu gwybodaeth
  • pa wybodaeth y byddwn yn ei rhannu
  • pryd y byddwn yn ei rhannu
Cyhoeddwyd ar 17 November 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2023 + show all updates
  1. References to registering a trust on time have been removed.

  2. How HMRC will respond to reports of disproportionate risk of harm has been added.

  3. Added translation

  4. A link to guidance about penalty charges for not registering or maintaining a trust has been added to the 'If you do not register on time' section.

  5. Guidance on how to check if your trust is a Schedule 3A trust has been added.

  6. The 'After you've registered' section has been updated with information on what you need to do if your client starts a new business relationship with an organisation and when HMRC will share information about your client's trust.

  7. We have updated the guidance on penalties due to late registration or failure to register.

  8. Information on how to report that beneficial owners may be at a disproportionate risk of harm has been added.

  9. Guidance has been added about the information you need to register a trust if the settlor is deceased.

  10. The section 'when to register' has been updated, as a trustee may now receive a notification letter reminding them to register a trust if it is not registered on time.

  11. The section on 'further considerations for trusts that are only required to register because of a liability to UK tax' has been removed and a link has been added to more detailed information.

  12. The 'Who should register' section has been updated.

  13. Information about the registration deadline for taxable and non-taxable trusts has been added.

  14. Added translation

  15. We've updated the page with further guidance for both taxable and non-taxable trusts.

  16. Sections about what you'll need to register a trust and employment trust beneficiaries have been updated.

  17. Information about the number of beneficiaries in any one beneficiary type has been updated to 25.

  18. The instructions about how clients should set up agent authorisation have changed in the section 'Tell HMRC about changes to registration details'.

  19. Information about what you need to do to tell HMRC about changes to registration details has been updated.

  20. Tell HMRC about changes to registration details has been updated.

  21. The 'how to register' section has been updated.

  22. The guidance has been updated to make it clearer who should register, when to register, what you'll need to register and what happens after you register.

  23. This guidance has been updated to show the types of trust you must register, and the deadlines for registering.

  24. Information on how to tell HMRC about changes to lead trustee details has been added.

  25. The guidance has been updated to show that the lead trustees may have to pay a penalty, not their agents.

  26. The guidance has been updated to include information about penalties for not registering your client's trust, and for not telling HMRC about changes to your client's information.

  27. Added information about what to do if you need to record details of more than 2 settlors.

  28. The 'How to register' section has been updated to include more detail on creating an agent services account.

  29. Updated content to make clear what you need to register for an agent services account.

  30. The guidance has been updated to explain more about classes of beneficiaries and how to register a trust, and that you need an agent services account before being able to register.

  31. First published.