Canllawiau

Gofyn i CThEF am wybodaeth am ymddiriedolaeth

Dysgwch sut i gyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i CThEF er mwyn cael gwybodaeth am ymddiriedolaeth, a pha fanylion byddwn yn eu rhannu.

Yr hyn y mae ‘cais am ddata ymddiriedolaeth’ yn ei olygu

Mae’r broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaeth yn gyfleuster sy’n galluogi pobl, o dan rai amgylchiadau, i gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.

Yr hyn y mae ‘ymddiriedolaeth gofrestredig’ yn ei olygu

Mae ymddiriedolaeth gofrestredig yn ymddiriedolaeth sydd wedi’i chofrestru gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaethau sydd angen eu cofrestru

Nid yw’n ofynnol i bob ymddiriedolaeth gael eu cofrestru. I ddysgu pa fathau o ymddiriedolaethau y gallwch eu gweld ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau, darllenwch Gofrestru ymddiriedolaeth fel ymddiriedolwr.

Ymddiriedolaethau sy’n dod o dan y broses o wneud cais am ddata

Nid yw pob ymddiriedolaeth gofrestredig yn dod o dan y broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau. Dim ond data am ymddiriedolaethau sydd wedi’u cofrestru ac sy’n dod o dan y broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau y gallwch eu derbyn.

Pryd y byddwn yn rhannu gwybodaeth

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth am ymddiriedolaeth gofrestredig os yw unigolyn neu sefydliad yn cyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i ni.

Mae dau fath o gais am ddata ymddiriedolaeth.

Cais am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys

Defnyddiwch hwn i ofyn am wybodaeth am ymddiriedolaeth sydd, yn eich barn chi, yn ymwneud â gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth.

Mae’n rhaid i chi allu dangos y canlynol:

  • eich bod yn ymchwilio i achos arbennig o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
  • bod yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani at ddibenion helpu’ch ymchwiliad

Cais am ddata ymddiriedolaeth gan gwmni alltraeth

Defnyddiwch hwn i ofyn am wybodaeth am ymddiriedolaeth gofrestredig sydd â chyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth.

Cwmni alltraeth yw cwmni neu endid cyfreithiol arall sydd heb ei sefydlu yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein (yn Saesneg).

Cyfran reolaethol at y diben hwn yw lle bo gan ymddiriedolaeth gofrestredig fwy na 50% o’r cyfranddaliadau yn yr endid, neu ei bod yn gallu ei reoli rhyw ffordd arall.

Pryd na fyddwn yn rhannu gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu data ymddiriedolaeth os:

  • nad oes digon o wybodaeth mewn cais i ni allu olrhain yr ymddiriedolaeth
  • nad ydych yn dangos bod gennych fuddiant dilys i gael yr wybodaeth
  • nad oes gennym wybodaeth bod gan yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth
  • nad yw’r ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru
  • yw’r ymddiriedolaeth wedi’i heithrio o’r broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaeth

Os ydych yn un o’r canlynol, efallai yr hoffech wybod a yw ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru, neu i gymryd perchnogaeth dros gofnod ymddiriedolaeth:

  • yn ymddiriedolwr
  • yn asiant awdurdodedig
  • yn barti arall sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am yr ymddiriedolaeth honno

Ni ddylech ddefnyddio’r broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau. Yn lle hynny cysylltwch â CThEF am help gydag ymholiadau am ymddiriedolaethau.

Ymddiriedolaethau sydd wedi’u heithrio rhag rhannu data

Ni fyddwn yn rhannu data am rai fathau penodol o ymddiriedolaethau cofrestredig, er enghraifft:

  • ymddiriedolaethau trethadwy nad ydynt yn ddatganedig a’u bod ond wedi’u cofrestru am eu bod yn agored i drethiant y DU
  • ymddiriedolaethau datganedig eithriedig (a elwir hefyd yn ymddiriedolaethau atodlen 3A) a’u bod ond wedi’u cofrestru am eu bod yn agored i drethiant y DU
  • ymddiriedolaethau y tu allan i’r DU heb unrhyw ymddiriedolwyr sy’n preswylio yn y DU, a’u bod ond wedi’u cofrestru am fod ganddynt dir neu eiddo yn y DU

Unigolion sydd wedi’u heithrio o rannu data

Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth am unigolion penodol:

  • os rydym wedi cael gwybod eu bod nhw o dan 18 oed neu na allant wneud penderfyniadau o ganlyniad i’w cyflwr meddwl (er enghraifft, bod ganddynt salwch meddwl, anabledd dysgu neu ddementia)
  • os ydym yn ymwybodol, ac yn cytuno, y bydd rhannu gwybodaeth yn gwneud unigolyn yn agored i’r canlynol:
    • twyll
    • herwgipiad
    • blacmel
    • cribddeiliaeth
    • aflonyddu
    • trais
    • bygythiad

Gwybodaeth y byddwn yn ei rhannu

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth am berchnogion llesiannol sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth gofrestredig.

Gall perchennog llesiannol fod yn unrhyw un sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth, er enghraifft:

  • ymddiriedolwr
  • setlwr
  • buddiolwr

Gwybodaeth am unigolion

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolion:

  • ei enw
  • mis a blwyddyn ei eni
  • ei wlad breswyl
  • ei genedligrwydd
  • ei rôl yn yr ymddiriedolaeth

Gwybodaeth am sefydliadau

Byddwn yn rhannu manylion canlynol y perchennog llesiannol:

  • enw
  • statws preswyl
  • rôl yn yr ymddiriedolaeth

Yr hyn y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost, neu’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • manylion a chyfeiriad eich sefydliad, os yw’n briodol
  • digon o wybodaeth i adnabod yr ymddiriedolaeth, er enghraifft:
    • enw’r ymddiriedolaeth
    • unrhyw Gyfeirnodau Treth Unigryw (UTR) perthnasol
    • unrhyw Gyfeirnodau Unigryw (URN) perthnasol
    • manylion cyswllt personol unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth
    • manylion cyswllt sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth

Ar gyfer ceisiadau am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • gwybodaeth i ddangos eich bod yn ymwneud ag ymchwiliad i wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
  • adroddiad ysgrifenedig yn esbonio pam rydych yn amau bod yr ymddiriedolaeth yn ymwneud â gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth

Gallwch hefyd roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’ch adroddiad ysgrifenedig (er enghraifft, cyfriflenni banc, anfonebau ac e-byst).

Sut i gyflwyno cais

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gyflwyno’ch cais. Byddwch yn gallu atodi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’ch cais.

Drwy ddefnyddio’r ffurflen hon, rydych yn cytuno y gallai’r wybodaeth a ddarparwch gael ei defnyddio gan adrannau eraill yn CThEF. Megis ymchwilio i ymddiriedolaeth nad yw’n gofrestredig ar gofrestr yr ymddiriedolaethau.

Dechrau nawr

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob ymddiriedolaeth yr ydych yn gwneud cais am ddata ar ei chyfer.

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i CThEF am berson neu fusnes nad yw’n talu digon o dreth, neu sy’n cyflawni twyll treth, yn eich barn chi. Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am dwyll treth neu arbed treth.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais

Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch gyda chyfeirnod eich cais.

Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni a cheisio ysgrifennu atoch cyn pen 8 wythnos.

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn naill ai:

  • rhoi’r holl wybodaeth a ofynnoch amdani, neu peth ohoni
  • dal yr holl wybodaeth yn ôl
  • rhoi gwybod i chi nad yw wedi bod yn bosibl delio â’ch cais (er enghraifft, pan na fyddwn wedi gallu dod o hyd i’r ymddiriedolaeth)

Os byddwn yn gwrthod eich cais oherwydd bod eithriad yn berthnasol

Os penderfynwn beidio â rhannu gwybodaeth â chi, byddwn yn anfon llythyr atoch. Bydd hwn yn esbonio sut y gallwch ofyn i ni adolygu’n penderfyniad os ydych yn anghytuno. Bydd gennych 30 diwrnod o gael ein llythyr i ofyn am adolygiad.

Cyhoeddwyd ar 1 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 June 2023 + show all updates
  1. Information about what a trust data request is and how to make a trust data request has been added.

  2. Added translation