Canllawiau

Cofrestru ystâd eich cleient

Cofrestrwch ystâd eich cleient ar-lein os ydych yn asiant neu’n ymgynghorydd treth.

Pwy ddylai gofrestru

Dim ond os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol y mae angen i chi gofrestru ystâd eich cleient:

  • mae gwerth yr ystâd dros £2.5 miliwn
  • mae gwerth asedion a werthir gan y cynrychiolydd personol mewn unrhyw un flwyddyn dreth dros £500,000
  • mae cyfanswm y dreth sy’n ddyledus dros £10,000

Pwy na ddylai gofrestru

Nid oes angen i chi gofrestru nac anfon Ffurflen Dreth os nad oes gan ystâd incwm trethadwy nac enillion trethadwy, cyn belled nad oes angen i chi wneud hawliad am ryddhad na dewis.

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr ystâd yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny’n llai na £500, nid oes rhaid rhoi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd gan ystâd unrhyw fath o incwm hyd at £500, ni fydd angen talu Treth Incwm ar yr incwm hwnnw wrth iddo godi. Os bydd yr incwm yn mynd heibio i’r trothwy hwnnw, bydd treth yn daladwy ar y swm llawn.

Bydd y swm sy’n rhydd o dreth, sef £500, yn berthnasol i’r canlynol: 

  • pob blwyddyn dreth o’r gweinyddu
  • pob math o incwm, ar ôl didynnu incwm o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) gan ei fod yn dal i fod yn esempt ar ôl i berson farw hyd nes bod y cyfrif yn cau, neu hyd at 3 blynedd wedi’r farwolaeth

Os yw’r incwm yn fwy na’r swm rhydd o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth, dylech ddefnyddio trefniadau talu anffurfiol (yn Saesneg).

Pryd i gofrestru

Cofrestrwch yr ystâd gyda CThEM i gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth pan fydd yr ystâd yn dechrau cael incwm neu pan fydd ganddi enillion trethadwy y mae treth yn daladwy arnynt.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Gwybodaeth am yr ystâd

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r ystâd, er enghraifft ystâd Dafydd Jones a fu farw
  • cyfeiriad a rhif ffôn yr ystâd (dyma fydd cyfeiriad a rhif ffôn y cynrychiolydd personol)
  • y dyddiad y daeth y cyfnod gweinyddu i ben, os yw’n berthnasol

Cynrychiolydd personol

Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer y person:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol neu rif y pasbort a’r dyddiad dod i ben
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Manylion ynghylch y person sydd wedi marw

Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer yr ymadawedig:

  • enw
  • cyfeiriad hysbys diwethaf
  • dyddiad geni
  • dyddiad y farwolaeth
  • rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)

Blynyddoedd o rwymedigaeth treth

Mae angen i chi ddewis y blynyddoedd treth y mae angen i’r ystâd ddatgan rhwymedigaeth i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar eu cyfer.

Sut i gofrestru

I gofrestru ystâd, mae angen i chi fod â chyfrif gwasanaethau asiant. Os oes gennych un eisoes, mae angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a grëwyd gennych pan wnaethoch sefydlu’r cyfrif.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un y tro cyntaf i chi gofrestru ystâd. Bydd angen y canlynol arnoch:

Rhaid i chi fod y person sy’n gyfrifol am faterion treth neu weinyddol eich cwmni asiant. Pan fyddwch wedi sefydlu cyfrif gwasanaethau asiant, gallwch ychwanegu gweinyddwyr a chynorthwywyr cyn cofrestru ystâd.

Cofrestru nawr

Argaeledd y gwasanaeth

Gall gwasanaethau CThEM fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd CThEM yn anfon UTR yr ystâd at y cynrychiolydd personol, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen UTR yr ystâd arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Nid yw cofrestru ystâd eich cleient yn rhoi awdurdod i chi weithredu ar ei ran. Mae angen awdurdod ar CThEM drwy ddefnyddio ffurflen 64-8 i gyfathrebu â chyfrifydd, asiant treth neu ymgynghorydd sy’n gweithredu ar ran cynrychiolydd personol.

Cyhoeddwyd ar 17 November 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2024 + show all updates
  1. This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.

  2. The informal payments arrangements process has been updated.

  3. Welsh translation has been added.

  4. This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.

  5. The guide has been updated to give more clarification on who should register and who should not register.

  6. The 'How to register' section has been updated to include more detail on creating an agent services account.

  7. Updated content to make clear what you need to register for an agent services account.

  8. The guidance has been updated to explain more about how to register an estate, and that you need an agent services account before being able to register.

  9. First published.