Skip to main content
Canllawiau

Cofrestru ymddiriedolaeth

Sut i gofrestru ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.

Cyn i chi ddechrau cofrestru ymddiriedolaeth

Mae angen cofrestru’r rhan fwyaf o fathau o ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n breswyl yn y DU, neu ymddiriedolaeth ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU sydd â chysylltiadau penodol â’r DU, ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (TRS).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gofrestru ymddiriedolaeth

Rhaid i’r wybodaeth a roddir fod yr un peth â’r wybodaeth a ddangosir ar unrhyw ddogfennau swyddogol sy’n ymwneud â pherchnogion buddiol yr ymddiriedolaeth, megis: 

  • gweithredoedd yr ymddiriedolaeth neu unrhyw ddatganiad ffurfiol arall 

  • pasbortau, tystysgrifau geni, tystysgrifau priodas a gwybodaeth am fabwysiadu 

  • cyfeiriadau post a chodau post swyddogol

Mae rhai cwestiynau yn y gwasanaeth sy’n gadael i chi barhau heb roi’r wybodaeth, ond rhaid ei roi o fewn 90 diwrnod i’r ymddiriedolaeth gael ei chofrestru. Gallwch ddarganfod sut i ddiweddaru a rheoli manylion eich ymddiriedolaeth.

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • enw’r ymddiriedolaeth (wedi’i gyfyngu i 53 o gymeriadau yn y gwasanaeth) — gallwch fyrhau enw’r ymddiriedolaeth fel bod lle iddo, ond peidiwch â dileu unrhyw wybodaeth bwysig, fel enw’r setlwr

  • y dyddiad y crëwyd yr ymddiriedolaeth — dyma pryd y rhoddwyd asedion i’r ymddiriedolaeth am y tro cyntaf, os nad ydych yn gwybod y dyddiad, rhowch naill ai:

    • y dyddiad pan gafodd weithredoedd yr ymddiriedolaeth ei llofnodi
    • dyddiad marwolaeth y setlwr ar gyfer ymddiriedolaethau ewyllys
  • a yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ddatganedig ai peidio 

  • manylion ynghylch a oes gan ymddiriedolaeth nad yw yn y DU berthynas fusnes yn y DU 

Dylech allu dod o hyd i’r manylion hyn yn y weithred ymddiriedolaeth ac ar unrhyw ohebiaeth y mae’r ymddiriedolaeth wedi’i chael gan CThEF.

Prif ymddiriedolwyr 

Mae pob ymddiriedolwr yr un mor gyfrifol â’i gilydd, yn gyfreithiol, am yr ymddiriedolaeth, ond mae’n rhaid i ymddiriedolwyr enwebu un ‘prif’ ymddiriedolwr i fod yn brif bwynt cyswllt gyda CThEF. Gall prif ymddiriedolwr fod yn unigolyn neu’n sefydliad.

Rhaid i’r prif ymddiriedolwr neu asiant sy’n gweithredu ar ei ran wneud y canlynol:

  • cofrestru’r ymddiriedolaeth

  • diweddaru’r wybodaeth fel y bo angen

Bydd y prif ymddiriedolwr yn cael unrhyw ddogfennaeth sy’n ymwneud â TRS.

Rhaid i’r wybodaeth gyswllt ar gyfer y prif ymddiriedolwr fod yn gyfredol.

Os yw’r prif ymddiriedolwr yn unigolyn, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • eienw

  • ei ddyddiad geni 

  • ei gyfeiriad

  • ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n breswylydd yn y DU) 

  • ei fanylion pasbort (os nad yw’n breswylydd yn y DU) 

  • ei gyfeiriad e-bost 

  • ei rif ffôn 

  • gwlad breswyl a chenedligrwydd

Os yw’r prif ymddiriedolwr yn sefydliad, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • ei enw busnes

  • ei Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

  • ei gyfeiriad

  • ei gyfeiriad e-bost

  • ei wlad breswyl

Os yw cwmni cyfyngedig wedi’i gofrestru ar Dŷ’r Cwmnïau, bydd gan y sefydliad man preswylio yn y DU. Os nad yw wedi’i gofrestru, bydd angen i chi ddewis y wlad lle mae’r brif swyddfa wedi’i lleoli.

Setlwyr, unigolion a sefydliadau eraill

Mae setlwr yn unigolyn sydd wedi rhoi asedion i mewn i ymddiriedolaeth. Mae unigolion eraill yn cynnwys mwy o ymddiriedolwyr ac amddiffynyddion.

Ar gyfer unigolion, bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol amdanynt: 

  • ei enw llawn

  • ei gyfeiriad

  • ei ddyddiad geni

  • ei ddyddiad bu farw, os yw’n berthnasol

  • ei wlad breswyl hysbys ddiwethaf

  • ei wlad cenedligrwydd ddiwethaf

  • ei alluedd meddyliol ar yr adeg gofrestru – bydd CThEF yn cymryd bod gan yr unigolyn alluedd meddyliol, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni fel arall 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am beth mae galluedd meddyliol yn ei olygu mewn perthynas ag ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg) yn llawlyfr CThEF.

Ar gyfer setlwyr yr ymadawedig, os ydynt ar gael, bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol amdanynt:

  • eu cyfeiriad diwethaf

  • eu rhif Yswiriant Gwladol (os yw’n breswylydd yn y DU)

  • eu manylion pasbort (os nad yw’n breswylydd yn y DU)

  • eu dyddiad marwolaeth

Ar gyfer sefydliadau, bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • enw’r sefydliad

  • eu gwlad breswyl

Buddiolwyr 

Dylech roi manylion pob buddiolwr hysbys a all elwa o’r ymddiriedolaeth.  

Os oes gennych fwy na 25 o fuddiolwyr sy’n un math arbennig o fuddiolwr, cadwch nodyn o’r buddiolwyr ychwanegol ar gyfer eich cofnodion eich hun. 

Buddiolwyr a enwir 

Bydd angen i chi roi manylion yr holl fuddiolwyr a buddiolwyr posibl a enwir fel y cyfryw yn y weithred ‘deed’.

Mae hyn yn cynnwys:

  • unigolion

  • sefydliadau

  • elusennau neu ymddiriedolaethau 

Dosbarthiadau o fuddiolwyr 

Gallwch ddefnyddio ‘dosbarth’ o fuddiolwyr i ddisgrifio grŵp o unigolion nad ydynt yn hysbys eto, nac wedi’u henwi’n unigol yn y weithred ymddiriedolaeth, er enghraifft, wyrion yn y dyfodol y setlwr. 

Os gall aelodau’r dosbarth gael eu hadnabod yn unigol yn rhesymol gan yr ymddiriedolwyr, dylid eu cofnodi fel buddiolwyr a enwir.

Buddiolwyr sy’n ymwneud â chyflogaeth 

Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gofnodi buddiolwyr sy’n rhan o sefydliad, er enghraifft, cyflogeion cwmni. 

Bydd angen i chi hefyd roi nifer fras y buddiolwyr yn y grŵp.

Buddiolwyr sy’n elusen neu’n ymddiriedolaeth

Ar gyfer buddiolwyr sy’n elusennau neu ymddiriedolaethau, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • enw’r elusen neu’r ymddiriedolaeth

  • eu gwlad breswyl

Ar gyfer elusennau, dyma lle mae’r elusen fel arfer wedi’i chofrestru, neu lle mae ei phrif swyddfa neu brif swyddfa wedi’i lleoli.

Buddiolwyr eraill

Mae hyn ar gyfer buddiolwyr nad ydynt yn rhan o unrhyw un o’r categorïau eraill. Ni ddylai’r categori hwn gynnwys cyflogeion a enwyd na chyflogeion penodol.

Dylid cofnodi unigolion fel buddiolwyr unigol.

Ar gyfer buddiolwyr eraill, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • eu gwlad breswyl

  • disgrifiad o’r buddiolwr

Perchnogaeth neu gyfran reolaethol mewn cwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Dyma pan fo gan ymddiriedolaeth berchnogaeth, neu gyfran reolaethol, o gwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • enw a chyfeiriad y cwmni

  • y wlad y mae ei chyfreithiau’n llywodraethu’r cwmni 

  • y dyddiad pan gafodd yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol 

Pa wybodaeth ychwanegol y bydd ei hangen arnoch ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy 

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • y math o ymddiriedolaeth 

  • manylion ynghylch sut y cafodd ei sefydlu

  • manylion am unrhyw asedion sydd gan yr ymddiriedolaeth

  • os yw’r ymddiriedolaeth wedi’i rhestru fel ymddiriedolaeth Atodlen 3A — dim ond os oes angen UTR i ddatgan rhwymedigaeth dreth y cofrestrir yr ymddiriedolaethau hyn 

Cyfranddaliadau 

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • enw’r cwmni y mae’r cyfranddaliadau ynddo 

  • nifer y cyfranddaliadau 

  • dosbarth a math o gyfranddaliadau 

  • amcangyfrif o werth y cyfranddaliadau pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth 

Partneriaeth 

Bydd angen i chi gynnwys dyddiad dechrau’r bartneriaeth a disgrifiad y bartneriaeth.

Busnes 

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • enw, cyfeiriad a disgrifiad o’r busnes 

  • amcangyfrif o werth y busnes pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth 

Eiddo a thir 

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • cyfeiriad, enw neu ddisgrifiad o’r eiddo neu’r tir 

  • amcangyfrif o werth llawn yr eiddo neu’r tir ar adeg cofrestru’r ymddiriedolaeth 

  • amcangyfrif o werth y gyfran o dir neu eiddo a ddelir gan ymddiriedolaeth os nad yw’n berchen ar y cyfan 

Arian ac asedion eraill (megis ceir, gemwaith a chelf) 

Bydd angen i chi gynnwys: 

  • cyfanswm yr arian yn yr ymddiriedolaeth 

  • disgrifiad o’r ased 

  • gwerth yr ased pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth 

Cyn i chi ddefnyddio’r gwasanaeth

Os mai chi yw’r prif ymddiriedolwr 

Mae angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad. 

Mae hyn yn wahanol i Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Unigolyn. Ni allwch ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Unigolyn i gofrestru ymddiriedolaeth. 

Bydd angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad gwahanol ar gyfer pob ymddiriedolaeth rydych yn gyfrifol amdano.

Gallwch greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad wrth gofrestru.

Bydd angen i chi ddewis ‘Sefydliad’ ar y sgrin sy’n cael ei dangos ar ôl i chi greu eich cyfrinair. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • cyfeiriad e-bost (bydd hyn yn gysylltiedig â’r cyfrif Porth y Llywodraeth ar gyfer yr ymddiriedolaeth) 

  • eich enw llawn 

  • rhif ffôn 

Os ydych yn asiant 

Bydd angen i chi wneud y canlynol: 

Cofrestru ymddiriedolaeth gyda CThEF 

Mewngofnodwch gyda’ch cyfrif gwasanaethau asiant neu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfersefydliad.

Gallwch arbed eich cynnydd am hyd at 28 diwrnod. Ar ôl 28 diwrnod, bydd angen i chi ddechrau’r cofrestriad eto.

Os oes angen dogfen tystiolaeth o gofrestru arnoch, bydd angen i chi allgofnodi ar ôl i chi gofrestru ac yna mewngofnodi yn ôl i gael copi o’r ddogfen tystiolaeth o gofrestru i’r sefydliad. Mae’r ddogfen ddatganiad yn wahanol i’r ddogfen tystiolaeth o gofrestru ac ni fydd yn cael ei derbyn fel tystiolaeth.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg)

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd y prif ymddiriedolwr yn cael:

  • UTR yr ymddiriedolaeth os ydych chi’n cofrestru ymddiriedolaeth drethadwy

  • Cyfeirnod Unigryw (URN) os ydych chi’n cofrestru ymddiriedolaeth nad yw’n drethadwy

Os nad yw’r prif ymddiriedolwr neu’r asiant wedi rhoi’r holl wybodaeth wrth gofrestru’r ymddiriedolaeth, rhaid iddo gwblhau’r wybodaeth sydd ar goll o fewn 90 diwrnod o gofrestru’r ymddiriedolaeth.

Os ydych yn cofrestru ymddiriedolaeth drethadwy, bydd CThEF yn anfon UTR at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen yr UTR arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. 

Os gwnaethoch gofrestru ymddiriedolaeth nad yw’n drethadwy, gall yr ymddiriedolwr neu’r asiant arweiniol gael yr URN drwy fewngofnodi i’r gwasanaeth eto ar ôl cyflwyno’r cofrestriad.

Bwrw golwg dros y manylion cofrestru neu wneud newidiadau iddynt

Rhaid i wybodaeth ar gofrestr yr ymddiriedolaeth fod yn gywir a’i chadw’n gyfredol.

Gallwch reoli manylion eich ymddiriedolaeth a dysgu rhagor am y canlynol: 

  • diweddaru manylion eich ymddiriedolaeth 

  • cael tystiolaeth o gofrestriad 

  • newid ymddiriedolaeth o fod yn un nad yw’n drethadwy i fod yn un sydd yn drethadwy 

  • awdurdodi asiant i weld a gwneud newidiadau 

  • cau ymddiriedolaeth

Dogfen tystiolaeth o gofrestriad

Efallai y gofynnir i chi am gopi cyfredol o’ch tystiolaeth o gofrestriad, gall hyn ddigwydd naill ai:

  • ar ddechrau perthynas fusnes

  • fel rhan o fonitro cleientiaid parhaus y cwmni

I ddarganfod sut i gael tystiolaeth o gofrestriad, gwiriwch sut i reoli ymddiriedolaeth.

Dysgwch ragor ynghylch rhoi gwybod am anghysondeb ymddiriedaeth i CThEF, sy’n cynnwys beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn rhoi dogfen tystiolaeth o gofrestriad i ‘berson perthnasol’. 

Rhoi gwybod y gallai perchnogion llesiannol fod mewn perygl anghymesur o niwed 

Efallai y byddwn yn rhannu manylion amdanoch chi neu ymddiriedaeth eich cleient gyda’r canlynol:

  • awdurdodau gorfodi’r gyfraith

  • trydydd partion

Mae hyn os yw’n cyflwyno ceisiadau am wybodaeth sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau Gwyngalchu Arian, er enghraifft, os gallant ddangos bod eich ymddiriedolaeth yn cael ei amau o wyngalchu arian.

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd CThEF i ddarganfod mwy am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.  

Os ydych chi’n credu y gallai rhannu gwybodaeth arwain at roi perchnogion llesiannol mewn perygl, gallwch roi gwybod i CThEF am berchnogion llesiannol sydd mewn perygl anghymesur o niwed.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon