Gwirio a oes angen i chi gofrestru ymddiriedolaeth
Dysgwch a oes angen i chi gofrestru ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau, a phryd y mae angen i chi wneud hynny.
Cyn i chi gofrestru ymddiriedolaeth
Dylech wirio a oes angen i chi gofrestru ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a’r ymddiriedolaeth yn cydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian.
Os ydych yn methu â chofrestru ymddiriedolaeth, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb o £5,000 (yn agor tudalen Saesneg).
I gael gwybodaeth gyffredinol am ymddiriedolaethau, gallwch ddysgu rhagor am ymddiriedolaethau a threthi.
Gwirio a yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi yn y DU
Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth sy’n breswyl yn y DU os yw’n agored i unrhyw un o’r trethi canlynol sy’n ymwneud ag asedion neu incwm yn y DU:
-
Treth Enillion Cyfalaf
-
Treth Incwm
-
Treth Etifeddiant
-
Treth Dir y Tollau Stamp
-
Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban)
-
Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru)
Mae hefyd angen i chi gofrestru ymddiriedolaeth nad yw’n breswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) os yw’n dod yn agored i unrhyw un o’r trethi hynny sy’n ymwneud ag asedion neu incwm y DU.
Os yw rhyddhad eisoes yn berthnasol i’r rhwymedigaeth, bydd dal angen i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth os oes angen i chi neu’ch cleient hawlio’r rhyddhad drwy Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os nad yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi yn y DU
Mae’n rhaid i’r mathau canlynol o ymddiriedolaethau gofrestru hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw rwymedigaeth treth:
-
pob ymddiriedolaeth ddatganedig sy’n breswyl yn y DU — oni bai eu bod wedi’u heithrio rhag cael eu cofrestru fel ymddiriedolaeth Atodlen 3A
-
ymddiriedolaethau y mae angen iddynt gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), er enghraifft er mwyn rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf nad yw’n breswyl (NRCGT)
-
ymddiriedolaethau datganedig nad ydynt yn breswyl yn y DU sydd â chysylltiadau penodol â’r DU, er enghraifft y rhai:
- sy’n caffael tir neu eiddo yn y DU ar ôl 6 Hydref 2020
- sy’n caffael buddiant mewn tir yn y DU cyn 6 Hydref 2020 ac yn dal i fod â’r buddiant hwnnw ar 30 Mehefin 2026
- sydd ag o leiaf un ymddiriedolwr sy’n breswyl yn y DU ac sy’n dechrau ‘perthynas waith’ o fewn y DU
Gwirio a yw’ch ymddiriedolaeth wedi’i heithrio rhag cael ei chofrestru fel ymddiriedolaeth Atodlen 3A
Nid oes angen i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth os yw’n ymddiriedolaeth Atodlen 3A, oni bai ei bod yn agored i dreth yn y DU. Cyfeirir at ymddiriedolaethau Atodlen 3A hefyd fel ‘ymddiriedolaethau datganedig eithriedig’.
Mae ymddiriedolaethau Atodlen 3A yn rhai sydd wedi’u heithrio rhag cael eu cofrestru o dan Atodlen 3A o Reoliadau Gwyngalchu Arian 2017.
Eithriad cyffredinol
Nid oes angen i chi gofrestru ymddiriedolaeth os yw’n bodloni pob un o’r meini prawf canlynol:
-
nid oes ganddi fuddiant mewn tir yn y DU
-
nid oes ganddi asedion o werth sylweddol sydd â gwerth o fwy na £2,000
-
nid oedd ganddi eiddo â gwerth cronnus o fwy na £10,000
-
nid oes ganddi incwm o fwy na £5,000 y flwyddyn
-
nid oes ganddi rwymedigaeth treth yn y DU
Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol i un ymddiriedolaeth fesul setlwr. Os bydd setlwr yn creu 2 ymddiriedolaeth neu fwy sy’n bodloni’r meini prawf, dim ond un ymddiriedolaeth fydd yn gymwys i gael yr eithriad. Nid yw ymddiriedolaethau sydd eisoes wedi’u heithrio o dan ‘Eithriadau eraill Atodlen 3A’ yn cyfrif tuag at y terfyn hwn.
Eithriadau eraill Atodlen 3A
Oni bai bod eich ymddiriedolaeth yn agored i dreth yn y DU, nid oes angen i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’n ymddiriedolaeth statudol sydd wedi’i sefydlu o ganlyniad i orchymyn llys neu yn ôl y gyfraith
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n cael ei defnyddio i ddal arian neu asedion o gynllun pensiwn cofrestredig yn y DU
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n dal polisïau yswiriant bywyd sydd ond yn talu os oes marwolaeth, salwch neu anabledd
-
mae’n ymddiriedolaeth ar gyfer elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU (neu’n elusen nad oes gofyn iddi gofrestru â’r Comisiwn Elusennau o dan Ddeddf Elusennau 2011)
-
mae’n ymddiriedolaeth a sefydlwyd i agor cyfrif banc ar gyfer plentyn
-
mae’n ymddiriedolaeth drwy ewyllys — a sefydlwyd ar adeg marwolaeth sy’n cymryd asedion o’r ystâd ac sy’n cael ei chau cyn pen 2 flynedd i’r farwolaeth
-
mae’n ymddiriedolaeth beilot — ymddiriedolaeth sydd â llai na £100 ac sydd wedi’i sefydlu cyn 6 Hydref 2020
-
mae’n ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl fel ‘tenantiaid cydradd’
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd ariannol
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n cael ei chreu i ddal arian ar gyfer pobl ar wahân i’r ymddiriedolwr — neu’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau proffesiynol
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n dal arian, gwarantau ac asedion eraill ar ran cleient — mae’n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â’r gwaith o gynnal y busnes gan berson perthnasol a oruchwylir
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd cyfalaf ac eitemau tebyg
-
mae’n ymddiriedolaeth a grëwyd i alluogi trafodion masnachol
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â chofrestru asedion
-
mae’n ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â gofynion deddfwriaethol
-
mae’n ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan y llywodraeth neu awdurdod cyhoeddus arall yn y DU
-
mae’n ymddiriedolaeth a sefydlwyd drwy weithred amrywio fel rhan o broses rheoli ystâd
-
mae’n ymddiriedolaeth eiddo a berchnogwyd ar y cyd sydd wedi rhoi’r gorau i fod yn esempt o ganlyniad i farwolaeth un o’r ymddiriedolwyr (gan gynnwys ymddiriedolaethau statudol a grëwyd o dan adran 34(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925)
-
maen nhw’n ymddiriedolaethau cyrchfan goroesedd yn yr Alban (‘Scottish survivorship destination trusts’)
Mae mathau eraill llai cyffredin o ymddiriedolaethau datganedig sydd hefyd wedi’u heithrio rhag cael eu cofrestru, oni bai bod angen iddynt gael eu cofrestru i gael UTR oherwydd eu bod yn agored i dalu treth.
Dylech wirio gyda chyfreithiwr, cyfrifydd, ymgynghorydd ariannol neu ymgynghorydd proffesiynol arall os nad ydych yn siŵr am y canlynol:
-
p’un a yw cynnyrch neu drefniant yn ymddiriedolaeth
-
p’un a oes rhaid cofrestru’r cynnyrch neu drefniant
Pryd i gofrestru ymddiriedolaeth
Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy
Os crëwyd eich ymddiriedolaeth cyn 6 Hydref 2020, mae’n rhaid i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl iddi gael ei chreu neu ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).
Os crëwyd eich ymddiriedolaeth cyn 6 Hydref 2020, y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau oedd ar neu cyn 1 Medi 2022.
Ymddiriedolaethau trethadwy
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn dibynnu ar y dyddiad pan grëwyd yr ymddiriedolaeth.
Os cafodd eich ymddiriedolaeth ei chreu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2021
Mae angen i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl i’r ymddiriedolaeth ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).
Os cafodd eich ymddiriedolaeth ei chreu cyn 6 Ebrill 2021
Mae cofrestru ymddiriedolaethau a chrëwyd cyn 6 Ebrill 2021 hefyd yn dibynnu ar y canlynol:
-
y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn agored iddi
-
a yw’r ymddiriedolaeth wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen
Os bydd eich ymddiriedolaeth yn dod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf am y tro cyntaf
Bydd angen i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth ar neu cyn 5 Hydref yn ystod y flwyddyn dreth sy’n dilyn yr un pan oedd y ddau beth canlynol yn berthnasol iddi:
-
dechreuodd yr ymddiriedolaeth gael incwm neu mae ganddi enillion cyfalaf
-
mae’r ymddiriedolaeth yn dod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
Er enghraifft, os cafodd eich ymddiriedolaeth rywfaint o log am y tro cyntaf ym mis Mai 2024 (blwyddyn dreth 2024 i 2025) ac fe ddaeth yn agored i Dreth Incwm, dylech fod wedi cofrestru ar neu cyn 5 Hydref 2025 (ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026) .
Os yw’ch ymddiriedolaeth wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen
Bydd angen i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth ar neu cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn dreth sy’n dilyn yr un pan oedd y ddau beth canlynol yn berthnasol iddi:
-
mae’r ymddiriedolaeth yn cael incwm neu mae ganddi enillion cyfalaf
-
mae’r ymddiriedolaeth yn agored i dreth
Os yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi eraill
Bydd angen i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth ar neu cyn 31 Ionawr yn ystod y flwyddyn dreth pan oedd gan eich ymddiriedolaeth unrhyw rwymedigaeth treth, er enghraifft Treth Etifeddiant.
Os oes gan eich ymddiriedolaeth nad yw’n breswyl yn y DU dir yn y DU a gafodd ei gaffael cyn 6 Hydref 2020
Mae’n rhaid i chi gofrestru eich ymddiriedolaeth erbyn 1 Medi 2027, ond ar hyn o bryd, nid yw’r Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau yn caniatáu i chi gofrestru’r ymddiriedolaethau hyn.
Byddwn yn rhoi diweddariad yn nes ymlaen ynghylch pryd y gallwch gofrestru.
Cofrestru ymddiriedolaeth
Os ydych wedi gwirio a bod rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth, gallwch gofrestru ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
First published.