Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am berchnogion llesiannol sydd mewn perygl anghymesur o niwed

Rhowch wybod am berchnogion llesiannol mewn ymddiriedolaeth gofrestredig a allai fod mewn perygl anghymesur o niwed.

Cyn i chi anfon adroddiad

Mae’r ffurflen hon ar gyfer rhoi gwybod i CThEF am un neu fwy o berchnogion llesiannol mewn ymddiriedolaeth sydd wedi’i chofrestru ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (TRS), a fyddai mewn perygl anghymesur o niwed pe bai eu gwybodaeth yn cael ei rhyddhau.

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod am dwyll neu arbed treth.

Os yw CThEF yn cytuno bod perygl anghymesur o niwed, bydd y canlynol yn berthnasol: 

  • byddwn yn gwneud cais am esemptiad am 12 mis

  • ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth â thrydydd partïon

Nid yw rhoi gwybod am risg o niwed yn gwarantu y byddwn yn cymhwyso’r esemptiad.

Pryd bydd CThEF yn rhannu gwybodaeth

Mae CThEF yn rhannu gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar TRS mewn amgylchiadau cyfyngedig gyda rhai trydydd partïon.

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu dim ond os yw un o’r canlynol yn wir:

  • gall unigolion ddangos eu bod yn ymchwilio i achos o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth mewn perthynas ag ymddiriedolaeth

  • mae gan ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmnïau alltraeth

Mae’r wybodaeth hon wedi’i chyfyngu i’r canlynol:

  • enw llawn y perchennog llesiannol

  • mis a blwyddyn geni’r perchennog llesiannol

  • cenedligrwydd y perchennog llesiannol

  • gwlad breswyl y perchennog llesiannol

  • buddiant llesiannol yn yr ymddiriedolaeth y perchennog llesiannol

Ni fydd CThEF yn rhannu’r wybodaeth hon os byddai’n arwain yn uniongyrchol at risg anghymesur o’r canlynol:

  • twyll

  • herwgipiad

  • blacmel

  • cribddeiliaeth

  • aflonyddu

  • trais

  • bygythiad

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I roi gwybod am risg anghymesur o niwed, bydd angen i chi roi gwybod i ni’r canlynol:

  • enw’r ymddiriedolaeth

  • enw’r prif ymddiriedolwr

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Gyfeirnod Unigryw (URN)

  • y perchnogion llesiannol sy’n agored i risg o niwed

  • risg benodol o niwed

  • yr holl resymau pam fod y perchnogion llesiannol mewn perygl o’r niwed penodedig

  • yr holl resymau dros gredu y byddai datgelu ei wybodaeth ymddiriedolaeth yn eu rhoi yn agored i risg anghymesur o niwed

  • hyd yr amser rydych yn credu y bydd y risg hon yn parhau

Cyflwyno adroddiad

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni am berchnogion llesiannol sydd â risg anghymesur o niwed.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi anfon eich adroddiad

Pan fyddwch yn rhoi gwybod wrth CThEF am risg anghymesur o niwed, byddwn yn:

  • adolygu’r wybodaeth a ddarperir

  • ymateb yn ysgrifenedig i’r ymddiriedolwyr

Bydd yr ymateb gan CThEF yn rhoi gwybod wrthych a ydym wedi cymhwyso’r esemptiad risg o niwed.

Os caiff ei gymhwyso, bydd yr esemptiad yn berthnasol am 12 mis o’r dyddiad y ddaeth yr adroddiad i law.

Os ydych chi’n credu bod risg o niwed o hyd ar ôl 12 mis, bydd angen i chi anfon adroddiad arall rhwng 11 a 12 mis o ddyddiad yr adroddiad diwethaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon