Cofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad
Cofrestru partneriaeth newydd ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio ffurflen SA400.
Gallwch gofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein, gallwch gofrestru drwy anfon ffurflen bost at CThEF.
Mae’n rhaid i’r partner a enwebwyd gan y bartneriaeth i gael ac i gyflwyno Ffurflenni Treth y bartneriaeth lofnodi’r ffurflen.
Cofrestru ar-lein
I gofrestru ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu gyfeirnod TAW a geir yn eich cyfrif treth busnes
Cofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post.
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- llenwch fersiwn ar-lein o’r ffurflen, ac yna ei hargraffu
- llenwch fersiwn PDF o’r ffurflen ar y sgrin, ac yna ei hargraffu
- argraffwch fersiwn PDF o’r ffurflen, ac yna ei llenwi
Yna, bydd angen i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi at CThEF.
Llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen ‘Cofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad’.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenniv CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwch fersiwn PDF o’r ffurflen
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- argraffwch y ffurflen a’i llenwi
- llenwch y ffurflen ar y sgrin, ac yna ei hargraffu
Yna, bydd angen i chi bostio’ch ffurflen wedi’i llenwi i CThEF, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
I gwblhau’r ffurflen ar y sgrin, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
- Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.
- Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ar ôl i chi gofrestru
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 21 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) yn gynt drwy ddefnyddio Ap CThEF neu’ch cyfrif treth busnes.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i CThEF eich bod yn rhoi awdurdodiad i rywun weithredu ar eich rhan ar gyfer materion treth unigolion neu fusnes.