Canllawiau

Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) – ynglŷn â ni

Pwy, beth, pam a ble

Mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn sefydliad cyhoeddus a sefydlwyd gan y Llywodraeth sy’n gyfrifol am waredu daearegol diogel yn y DU.

Rydym yn cydweithredu gyda gwyddonwyr o gwmpas y byd ar raglenni ymchwil sy’n werth nifer o filiynau o bunnau, ac yn rhannu’r datblygiadau gwyddonol diweddaraf a’r arferion gorau. Rydym hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr gwastraff ymbelydrol er mwyn canfod ffyrdd o’i becynnu sy’n addas ar gyfer ei waredu mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).

Ein gweledigaeth yw creu dyfodol mwy diogel drwy reoli gwastraff ymbelydrol yn effeithiol a gwarchod pobl a’r amgylchedd.

30 mlynedd o ymchwil a datblygu gwyddonol

Mae tîm RWM yn cynnwys gwyddonwyr a pheirianyddion sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o gynnal ymchwil a datblygu ym maes gwaredu daearegol, a gefnogir gan arbenigwyr ymgysylltu cymunedol. Mae ein sefydliad yn is-gorff yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), sefydliad yn y sector cyhoeddus y mae Llywodraeth y DU wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddo am lanhau gwaddol niwclear Prydain yn ddiogel ac effeithlon.

Craffu annibynnol

Mae ein gwaith yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR) a’r asiantaethau canlynol:

Mae hefyd yn destun craffu gan gorff annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth, sef y Y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol, (CoRWM).

Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Er mwyn deall ein cenhadaeth yn well a beth ydym yn ei wneud, gwyliwch fideo ein cwmni isod.

Road to Delivery

Cyhoeddwyd ar 25 January 2018